Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/53

Gwirwyd y dudalen hon

a ffyrnigodd yr erlidwyr yn fwy. Canlynent ar ol y crefyddwyr am ysbaid milldir o ffordd, gan eu curo yn gethin â'r cyrn gwartheg. Ac nid oes wybod dros ba faint o ffordd yr ymlidiasid hwy yn y ffordd yma, oni bai i ryw hen ymladdwr adnabyddus eu cyfarfod. Hwn, er mwyn dangos ei nerth a'i wroldeb, feallai, neu ynte, o dosturi dros y rhai a ddioddefent gymaint, a waeddodd, gan godi ei ffon uwch ei ben, myn y gŵr drwg, y mynai efe lonydd i'r bobl, neu y difethai efe hwynt oll. Felly y cafodd y bobl druain ymwared, pan oeddynt leiaf yn ei ddisgwyl."—Methodistiaeth Cymru, II., 266.

1770. Oddeutu yr amser hwn yr oedd cyfarfod eglwysig yn cael ei gynal yma, gyda rhyw fesur o gysondeb. Cynhelid cyfarfodydd eglwysig yn Pandy-y-Ddwyryd fwy na deuddeng mlynedd yn foreuach na hyn. Dichon fod y crefyddwyr yma hefyd wedi dechreu eu cadw yn agos i'r un amser. Ond nid oes sicrwydd am hyny. Yr oeddynt, pa fodd bynag, yn ymgeisio at ryw gymaint o drefn gyda'u cyfarfodydd o gylch y flwyddyn a nodir ar ddechreu y paragraff hwn. Dyma yr amser yr ymunodd Dafydd Siôn James â'r Methodistiaid. Gŵr hynod oedd hwn yn yr ardal, ar gyfrif ei dalent a'i ffraethineb. Meddai ddylanwad mawr ar ei gymydogion, i'w harwain at yr hyn oedd ddrwg, neu yr hyn oedd dda; a chyn ei dröedigaeth, eu harwain at yr hyn oedd ddrwg ac anfoesol, yn ddieithriad, y byddai. Nid oedd ef ei hun, fel y dengys ei ganeuon prydyddol, wedi ymarfer â dim ond anfoes yr amseroedd. Eto, byrlymiai ei dalent allan, a gosodai ei arswyd ar bawb a wnelai gam neu anghyfiawnder. Yr oedd y crefyddwyr yn falch iawn fod un fel hwn wedi ymuno â hwy, yn enwedig pan welsant arwyddion ei fod wedi cael tro. Yr hyn a ychwanegai at eu llawenydd yn fawr oedd, ei fod yn rhagori cymaint arnynt hwy mewn talent a medrusrwydd,— "medrai ddarllen, ysgrifenu, a barddoni." Gwyddent ei fod ar y blaen i'w ardalwyr yn nheyrnas y tywyllwch, ac os oedd