Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/532

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VII.—SYLWADAU TERFYNOL.

CYNWYSIAD.—Wyth enaid wedi myned yn 8000—Ymweliadau a'r eglwysi—Ymweliad yn 1817—Ymweliad y Parchn. Dafydd Cadwaladr a Richard Jones, Bala, yn 1826—Ymweliad cyffredinol yn 1851—Dechreuad yr Achosion Saesneg—Cynhadledd Achosion Saesneg Gogledd Cymru yn Nolgellau yn 1887—Cyfrifon yr eglwysi yn 1849 ac 1889—Y Casgliad Cenhadol cyntaf yn Sir Feirionydd—Casgliad y Jiwbili—Brodyr fuont feirw er 1888—Golwg gyffredinol ar yr hanes—Gwasanaeth gwragedd crefyddol i'r achos—Rhagoroldeb yr hen grefyddwyr—Y pethau y rhagora yr oes hon ynddynt—Yr Arglwydd yn adeiladu y tŷ.

 YNIR yn awr at y terfyn. Prin y gellir disgwyl fod yr hanes wedi ei orphen, oblegid nid oes dim yn orphenedig mewn byd y mae cynifer o bethau newyddion yn cymeryd lle ynddo yn wastadol. Anorphenedig ydyw pob peth ymhlith dynion. Y mae hanes, fel y dywedir, yn ail adrodd hun. Y pethau a fu, a fydd; a'r pethau a welwyd, a welir; a'r digwyddiadau a gymerasant le mewn un oes, a gymerant le mewn oes arall. Y mae goleuni fel y cerdda ymlaen yn gwneuthur y llwybr o'i ol yn oleuach. Ac y mae y pethau a berthynant i'r deyrnas nad yw o'r byd hwn oll yn newydd bob amser. Wrth ddechreu ysgrifenu hanes Eglwysi Gorllewin Meirionydd, nid oeddis yn meddwl y buasai yn bosibl casglu ynghyd gynifer o ffeithiau ag sydd wedi eu cofnodi yn y tudalenau blaenorol. Y mae yn ddigon posibl, er hyny, y daw llawer o bethau i oleuni eto wedi rhoddi cyhoeddusrwydd i'r hanes hwn. Gallesid yn hawdd