Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/540

Gwirwyd y dudalen hon

cymeryd lle ddwy flynedd yn flaenorol. Gan fod yr hanes wedi ei roddi yn gyflawn mewn cysylltiad â'r eglwys yn Nhowyn, ni raid ymhelaethu yma. Y mae yn perthyn i'r Cyfarfod Misol yn awr bedwar o gapeli Saesneg, a phump o eglwysi. Y capeli, yn ol eu trefn a'u hamseryddiaeth, ydynt Towyn, Dolgellau, Abermaw, a Blaenau Ffestiniog. Yr achos diweddaf a sefydlwyd ydoedd yn Aberdyfi, Mai 15, 1881. Nid oes yno eto gapel wedi ei adeiladu.

Cynhaliwyd Cynhadledd Achosion Saesneg Gogledd Cymru yn Nolgellau, dyddiau Mawrth a Mercher, y 18fed a'r 19eg o Hydref, 1887. Ac nid digwyddiad dibwys oedd hwn, oblegid dyma y Gynhadledd Saesneg gyntaf a gynhaliwyd yn Sir Feirionydd. Mae y cynulliad blynyddol hwn i'n brodyr y Sheson yn gyfystyr mewn llawer o bethau â Chymdeithasfa i'r Achosion Cymraeg, er nad ydyw, wrth reswm, yn meddu yr un awdurdod. Daeth nifer dda o'r gweinidogion perthynol i'r eglwysi Saesneg yn y Dalaeth Ogleddol ynghyd i Ddolgellau. A gall yr ysgrifenydd, gan ei fod yn bresenol, gyd-ddwyn. tystiolaeth bendant â phawb oedd yn wyddfodol i ragoroldeb cyfarfodydd y Gynhadledd. Mewn uniawngrededd, catholigrwydd, a brwdfrydedd, safai y cyfarfodydd hyn ysgwydd wrth ysgwydd ag unrhyw gyfarfodydd crefyddol a gynhelir yn iaith frodorol y wlad unrhyw amser. Yr oedd y tân Cymreig yn gwreichioni yn yr holl areithiau a'r trafodaethau. Am dri o'r gloch prydnawn y dydd cyntaf, mewn ffordd o agor y Gynhadledd, traddododd Parch. D. C. Davies, M.A., bregeth ar y geiriau, "Una fy nghalon i ofni dy enw." Yn yr hwyr dan lywyddiaeth Dr. Edward Jones, U.H., cynhaliwyd cyfarfod. cyhoeddus i ymdrin ar y wedd genhadol sydd yn perthyn i eglwysi Crist. Cymerwyd rhan ynddo gan y Parchn. D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam; John Williams, Caer; a Dr. Charles Edwards, Aberystwyth. Llywyddwyd y cyfarfodydd dranoeth gan y Parch. O. Jones, B.A., Liverpool, llywydd