Fryniau Khasia, ac mae y casgliad a wneir o fewn y Cyfarfod Misol hwn, er gwneuthur coffa am yr amgylchiad, yn debyg o gyraedd dros 3000p. Ac y mae yn cael ei gredu mai haelioni rhai o eglwysi rhwng y Ddwy Afon, y rhai a ddaethant allan yn gryf gyda'r casgliad hwn yn gynar yn y flwyddyn, a fu yn achlysur iddo lwyddo mor fawr yn y wlad yn gyffredinol. Yn ychwanegol at yr holl frodyr y coffheir am danynt, cymerwyd y rhai canlynol oddiwrth eu gwaith at eu gwobr er pan ysgrifenwyd y Gyfrol Gyntaf.
Y PARCH. GRIFFITH EVANS, ABERDYFI.—Bu farw Tachwedd 6, 1889, yn 62 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Botalog, ger Towyn. Yr oedd yn hanu o un o'r teuluoedd parchusaf yn y wlad, a nodweddid ef a'i hynafiaid gan raddau helaeth o gariad at ryddid a lleshad eu cydgenedl. Dygwyd ef i fyny mewn cysylltiad a masnach, a bu yn egwyddorwas yn Llanfyllin. Trwy ei briodas gyntaf, aeth i drigianu i'r Borth, Sir Aberteifi. Yno y dechreuodd bregethu. Daeth trosodd oddiyno ac ymsefydlodd yn Cynfal, gan ddilyn ei alwedigaeth fel amaethwr. Tra yn preswylio yno, bu yn wasanaethgar a defnyddiol gyda'r achos yn Brynerug. Ordeiniwyd ef yn 1872. Ychydig cyn diwedd ei oes rhoddodd i fyny amaethu, a chymerodd daith i America. Cymerai ddyddordeb mawr y tymor hwn yn y Cymry ar wasgar, a gwnaeth ei oreu i'w llesoli. Yr oedd yn ŵr deallus, a boneddigaidd ei ymddygiad, ac yn marn ei gydnabod yn ddidwyll a chrefyddol. Dygodd ei blant i fyny yn grefyddol, a chafodd fyw i'w gweled wedi ymsefydlu yn gysnrus yn y byd. Aeth i'r ystad briodasol yr ail waith, gan symud ei drigfan i Aberdyfi.
MR. EDWARD BELL, ABERDYFI—Yr oedd ef yn un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys Saesneg yn Aberdyfi. Ymunodd â'r achos hwn ar ei ddechreuad. Ymroddodd gyda phob ufudddod a pharodrwydd i fod yn noddwr iddo, ac nid oedd neb cymhwysach yn y lle i wneuthur hyny. Bu ei ddeheurwydd