Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/55

Gwirwyd y dudalen hon

tro gwirioneddol. Ymadawodd yn llwyr â'i hen gymdeithion, a daeth o hyny allan yn wasanaethgar gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu. "Llosgodd bentwr o'r fath rigymau,- bwriodd yr hen Interludiau & gyfansoddodd gynt i'r tân, ynghyd a'i lyfrau a'i bapyrau, fel na allent halogi neb mwyach; ac o'r braidd y diangodd y darnau uchod heb eu difetha." Wedi troi cefn ar ei hen gyfeillion, nid oedd dim a wnelai â hwy mwyach; ac er fod ol yr hen arferion arno trwy ei oes, daliodd ei dir gyda chrefydd i'r diwedd. Ei ganiadau o hyn allan oeddynt ar bethau crefyddol, oddieithr un rhigwm, yr hwn a gyfansoddodd fel sèn i offeiriaid yr Eglwys Wladol. Dechreua y rhigwm fel hyn:—

"Ow Eglwys Loegr glaiar gloff,
Os buost yn hoff a bywiog,
Ti eist yn awr ----- yn dyrau,
A'th gorpws gwan yn garpiog.

"Fe aeth dy weision duon di,
Yn ddiles iawn meddyliais i,
Ni wna dy offeiriaid am eu ffi
Ond pob direidi a gwaradwydd;
Y gorau am growsio yw'r mwya'u gras,
Neu yfwr harty o'r brecci bras."

Yr achlysur iddo gyfansoddi y rhigwm hwn oedd, gwaith offeiriad meddw—un o'i hen gymdeithion gynt yn lluchio gwydrad o gwrw i'w wyneb, tra yr elai i mewn i dŷ tafarn yn Mhenmorfa, gan edliw iddo ei enciliad oddiwrth y wir Eglwys at y Sismaticiaid.

Cymwynaswr i achos crefydd oedd Dafydd Siôn James; bu yn blaenori y canu yn y Penrhyn, am yr ysbaid maith o haner cant o flynyddoedd. Bu farw yn y flwyddyn 1831, yn 88 mlwydd oed, ac y mae ei feddrod i'w weled o flaen capel Nazareth.

Hanes digon hynod ydyw yr helynt a fu gydag adeiladu y capel cyntaf yn yr ardal hon. Fe geir yr hanes hwnw yn