Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/554

Gwirwyd y dudalen hon

ddaear, a hwy oedd y rhai cyntaf at y bedd, foreu y trydydd dydd. Felly y cawn eu hanes yn y dechreuad yn Sir Feirionydd. Pwy, bellach, sydd heb wybod am wrhydri Lowri Williams, yn Mhandy-y-Ddwyryd? am ffyddlondeb Catherine Griffith yn y Penrhyn ! am benderfyniad Jane Griffith a Catherine Owen yn erbyn erledigaeth yn Nolgellau ? Catherine Williams oedd un o'r rhai cyntaf i ysgogi gyda moddion crefyddol yn ardaloedd Towyn; Jane Roberts, Rugog, fu yn offerynol i ddwyn yr efengyl i Gorris. Mae yn hysbys mai y merched a'r gwragedd fu yn cario yr achos ymlaen, bron yn hollol, yn Aberdyfi, am dros ugain mlynedd o amser. Mrs. Griffith, ynghyd a'i mab, a roddodd y cychwyniad cyntaf i'r achos yn Abermaw; dwy chwaer ac un brawd a wnelai i fyny dri chrefyddwr cyntaf y Dyffryn; gwragedd crefyddol fu yn offerynol i gael tir i adeiladu yr hen gapel, sef y cyntaf yn mhlwyf Ffestiniog. Y mae yn ffaith, hefyd, mai hwy oedd yn gwneuthur i fyny fwyafrif mawr proffeswyr crefydd ac aelodau yr eglwysi, yn yr holl ardaloedd dros lawer o amser, yn mlynyddoedd cyntaf y diwygiad crefyddol yn y wlad.

Peth arall sydd i'w weled yn bur amlwg yn hanes yr eglwysi ydyw, fod y crefyddwyr cyntaf yn ddosbarth o bobl yn meddu crefydd o radd uchel iawn. Yr oeddynt wedi eu dwyn at grefydd o ganol dwfn anwybodaeth, ac oddiwrth arferion drwg ac annuwiol, a llawer o honynt wedi myned trwy argyhoeddiad llym a thrwyad!. Sylweddolent, gan hyny, y gwahaniaeth rhwng bywyd crefyddol a bywyd digrefydd; a theimlent yn ddwys rym y gorchymyn dwyfol, Dewch allan o'u canol hwynt, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd." Yr oedd y llinell derfyn rhwng byd ac eglwys mor eglur a haul haner dydd yn eu hamser hwy. Adwaenai pawb y crefyddwyr, nid oddiwrth eu proffes yn unig, ond oddiwrth eu bywyd diargyhoedd, a'u hymroddiad i wasanaethu yr Arglwydd.