Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/58

Gwirwyd y dudalen hon

ni gan ddynion geirwir, fod un wraig foneddig, a hono yn berthynas i'r gwr a fuasai farw mor ddisymwth, wedi penderfynu, er i'r penau-cryniaid lwyddo i gael capel, y mynai hi eu lluddias i gael pregethu ynddo tra y byddai hi byw. Yn y cyfamser, cafwyd cyhoeddiad gŵr enwog o'r Deheudir i bre- gethu ynddo, ar ei ffordd i Sir Gaernarfon (Griffiths, Nevern, medd rhai). Deallwyd hyn gan y wraig foneddig, ac ymosododd ar y gorchwyl o luddias i'r gwr gael pregethu. I'r diben hwn, cyflogodd nifer o ddynion at y gorchwyl, gan addaw eu gwledda yn helaethwych ar ol ymlid y pregethwr pengrynaidd i ffordd o'r fro. Daeth awr y bregeth, a'r erlid- wyr hefyd fuant ffyddlawn i'w hamod; a thrwy luchio a baeddu y gŵr dieithr, lluddiasant yr odfa, ac ymlidiasant y pregethwr ymaith o'u goror hwynt. Wedi llwyddo yn yr ymgyrch i eithaf boddlonrwydd iddynt eu hunain ac i'r wraig foneddig a'u gosodasai ar waith, dychwelasant i'r palas i eistedd with y ciniaw, ac i ymlawenychu uwchben gorchestion y diwrnod. Ond tra yr oedd pob wyneb yn siriol, a phob llaw yn brysur oddeutu yr arlwy, wele y'darn llaw' yn y golwg, yn peri braw a synedigaeth ymhob calon; oblegid trwy ryw anffawd neu gilydd, ac yn nghanol y ffwdan a'r prysurdeb yn dwyn y ciniaw ymlaen, dymchwelodd rhyw grochan yn llawn o wlybwr berwedig ar y wraig fawr ei hun, ac ymhen ychydig bu farw! Cafwyd llonydd i addoli yn yr ardal hon o hyny allan. Llaesodd dwylaw yr erlidwyr yn mro y Penrhyn, nid gan argyhoeddiad barn, a llai na hyny gan hyfrydwch serch, ond gan wir fraw."

Yr oedd Catherine Griffith, y soniwyd am dani amryw weithiau yn flaenorol, yn byw yn nhŷ y capel, ac arhosai llawer o ofalon yr achos ar ei hysgwyddau hi yn barhaus. Yr oedd hon yn wraig dduwiol ac o ysbryd rhagorol, ond ei bod yn dlawd ei sefyllfa. Llawer o weithredoedd da a wnaeth er mwyn y Gwaredwr a'i deyrnas. Y mae rhai o'i hymdrechion