Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/61

Gwirwyd y dudalen hon

Mewn cofiant byr i Catherine Griffith, yn y Drysorfa, Tachwedd 1826, dywedir iddi fod yn byw, dros ryw dymnor pan yn wraig ieuanc, yn Nolgellau. Oherwydd ei bod yn gyfyng arni o ran ei hamgylchiadau, hi aeth i werthu bara gwyn, er mwyn cael tamaid i fagu ei phlant. Dydd yr Arglwydd oedd y diwrnod goreu yn yr wythnos i werthu bara gwyn. Ond un tro, wrth wrando Mr. Tamberlain, periglor y plwyf, yn pregethu, ac yn dweyd wrth ei wrandawyr eu bod yn gwneyd dydd yr Arglwydd yn ddydd marchnad, aeth y dywediad i'w chalon i'r fath raddau fel na fedrai werthu bara wedi hyny ar y Sabbath. Yn yr amser hwnw, a hi eto o dan argyhoeddiad, cyfarfu ar y ffordd, tuallan i dref Dolgellau, â dau wr, sef John Pierce a Robert Dafydd [Brynengan], o Sir Gaernarfon, yn myned i Langeitho. Wrth yr olwg ddifrifol oedd arnynt, meddyliodd eu bod yn ddynion duwiol, o ganlyniad nesaodd atynt, a gofynodd a gai hi ymddiddan â hwy. A'r hyn oedd ganddi i'w ofyn iddynt ydoedd, "A oedd yn bosibl iddi fyned i'r nefoedd a gwerthu bara gwyn ar ddydd Sul?" Hwy a roddasant iddi gynghorion, o berthynas i grefydd ac iawn ymddygiad, y rhai ni allai hi, y pryd hwnw, eu deall. Ond glynodd geiriau un o'r ddau yn ddwys yn ei meddwl, sef, oni adawai hi y ffordd ddrygionus yr oedd yn ei dilyn, "Chwi a fyddwch yn uffern mor sicr a bod fy llaw i ar y llidiart yma." Mor onest oedd yr hen bobl, ac mor rhyfedd oedd ffyrdd yr Arglwydd i ddychwelyd eneidiau y dyddiau hyny! Bu Catherine Griffith fyw dros ychydig yn niwedd ei hoes gyda pherthynasau iddi yn Abermaw, a bu farw mewn tangnefedd, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau.

Yn y cyfnod boreuol ar hanes crefydd yn ein gwlad, ceir engreifftiau mynych o egwyddor bur a chydwybodolrwydd nodedig i ddyledswydd yn yr hen grefyddwyr. Yr oedd eu gonestrwydd a'u cywirdeb yn eu nodi allan, tuhwnt i bob amheuaeth, fel saint yr Arglwydd a rhai rhagorol y ddaear. Ac yn