Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/63

Gwirwyd y dudalen hon

ddeall fod y wraig ei hun, yn gystal a'i chymydogion, o dan yr argraff fod y ddau foneddwr wedi eu hanfon yn oruwchnaturiol, i estyn cynorthwy iddi i dalu ei hadduned fisol,

Ar gychwyniad yr achos yn y Penrhyn, nid oedd y rhagolygiad am iddo lwyddo ond bychan iawn, yn enwedig wrth edrych ar bethau yn allanol. Yr oedd yr offerynau yn wael a distadl, ac felly y buont am lawer o flynyddau. Y syndod ydyw i'r ychydig grefyddwyr oedd yma allu dal eu tir heb Iwfrhau a digaloni. O ran hyny, y mae crybwyllion yn bod, iddynt ar un adeg fod mewn cryn lawer o betrusder, pa un ai parhau i fyned ymlaen a wnaent, ynte rhoddi yr achos i fyny yn gwbl ac yn hollol. "Y gwir ydyw, fe fu golwg isel a gwedd ddigalon ar yr achos dros lawer o amser, cymaint felly nes oedd ymosodiad ar rai o'r brodyr yno i roi heibio y cyfarfodydd eglwysig yn llwyr; oblegid ni ddaethai neb atynt o'r newydd er's amser maith; ac yr oeddynt hwy eu hunain bellach yn amddifad o'r mwynhad hyfryd a brofid ganddynt gynt .Ar ryw achlysur, pan oeddynt ynghyd, gosodwyd y mater gerbron, a gofynwyd ai nid gwell oedd rhoddi y cwbl i fyny? Cyn rhoddi atebiad cadarnhaol i'r gosodiad, cynygiodd un o'r brodyr ddal yr achos i fyny goreu gellid o'r pryd hwnw hyd Galanmai canlynol. Cefnogwyd hyn gan un arall, a chytunasant yn unllais i sefyll yn ffyddlawn bob un at ei orchwyl hyd yr amser a benodwyd, a chytunasant hefyd y rhoddid dirwy o bum' swllt ar bwy bynag o honynt a dynai yn ol cyn pen y tymor. Cyn Calanmai, pa fodd bynag, yr oedd y demtasiwn o dynu yn ol wedi colli ei grym, oblegid ymwelodd yr Arglwydd yn y cyfamser â'r bobl dlodion, ac a barodd i'w calonau lawenychu. Deffrodd y gogledd-wynt, a chwythodd y deheuwynt ar yr ardd fechan hon, nes oedd ei pheraroglau yn ymwasgaru. Siriolodd yr ymweliad hwn bob mynwes brudd, fel na fu raid dirwyo neb. Ychwanegwyd amryw o aelodau newyddion at eu rhif, a rhoddwyd ysgogiad adnewyddol yn y gwersyll."