i Ffestiniog, ar y llaw dde, ymhen tua milldir ar ol gadael gorsaf y Penrhyn. Efe ydyw y tŷ uwchaf ar y dde, cyn dyfod i'r anialdir a'r goedwig sydd yn y fro, ac nid ydyw ond ergyd careg da oddiwrth y Rheilffordd. Mewn lleoedd cyffelyb y byddai hen grefyddwyr cyntaf y Methodistiaid, yn gyffredin, yn ymgynull ynghyd i addoli, yn nghychwyniad crefydd yn y wlad,—mor bell ag y gallent oddiwrth gyrchfa pobloedd.
Y mae Pencaergô yn nghysgod bryn yn mhellach drachefn oddiwrth y Rheilffordd, o'r bron mewn llinell union, i gyfeiriad yr afon neu y traeth. Rhwng y ddau fwthyn y mae pantle, trwy yr hwn yr arweinia y ffordd fawr (turnpike road) o Borthmadog i Maentwrog, heibio i Durnpike Cae-Vali. O'r pantle hwn, ymddengys Pencaergô a Gelligwiail megis yn sefyll ar drumau o fryn, y naill ar y llaw dde a'r llall ar y llaw aswy, heb fod nepell oddiwrth eu gilydd, a gallesid yn hawdd glywed canu, nid yn unig o'r pantle yn y canol, ond oddiar y naill fanc i'r llall. Nid yn annhebyg i hyn yr oedd mynydd Ebal a mynydd Garizim, lle y gosodwyd llwythau Israel, chwech ar bob un, i ddywedyd Amen, pan y clywent y bendithion a'r melldithion yn cael eu cyhoeddi gan yr offeiriaid yn y dyffryn rhyngddynt. Mewn rhyw ystyr yn debyg iddynt, fel y ceir gweled eto, yr oedd y brodyr yn Gelligwiail yn clywed canu a molianu gan eu brodyr oedd yn well na hwy yn Mhencaergô.
Yn Gelligwinil y dechreuwyd cynal cyfarfodydd eglwysig yn y Penrhyn, mor bell ag y buwyd yn alluog i gael hyny allan. O leiaf y mae sicrwydd eu bod yn cael eu cynal yn y tŷ hwn yn y flwyddyn 1770, er fod pregethu mewn lleoedd eraill yn yr ardal yn gynt na hyn. Darlunir y tŷ y pryd hwnw fel hen dŷ mynyddig. A'r un modd hefyd ceir darluniad o'r bobl a ymgynullent yn y tŷ i ddibenion crefyddol, fel rhai plaen a hynod gyntefig yn eu ffordd. Nid oes dim hysbysiad pwy oedd yn byw yn y tŷ ar y pryd, yn mhellach