Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/73

Gwirwyd y dudalen hon

Penrhyn. Yn y flwyddyn 1845, cymerwyd sylw o honynt gan y Cyfarfod Misol. Ceir y penderfyniad a basiwyd ganddo o berthynas iddynt, yn hanes Trawsfynydd. Cynwys y penderfyniad oedd, fod i'r lleoedd hyn gasglu cymaint ag a allent at y ddyled, a byddai i'r Cyfarfod Misol roddi punt ymhen pob punt i'w cyfarfod. Ymgymerodd y cyfeillion â chasglu gyda sel, a thrwy ddeheurwydd Mr. John Davies, yr hwn oedd y pryd hwnw wedi symud i fyw i Borthmadog, cafwyd. 20 o'r aelodau yn y Penrhyn i addaw 5p. yr un. Ac ar ddiwedd y flwyddyn, aeth tri o'r brodyr i'r Abermaw, i'r Cyfarfod Misol, i hysbysu eu bod wedi casglu 160p. Yn gweled fod y swm mor fawr, yr oedd y Cyfarfod Misol bellach mewn penbleth yn methu eu cyfarfod, a chyfodai Mr. Humphreys ei ddwylaw i fyny, gan ddywedyd, "Wfft i bobol y Penrhyn, wfft i bobol y Penrhyn!" A dywedir mai 100p a gawsant, yn lle punt ymhen pob punt. Rhoddwyd gallery ar Nazareth yn 1860. Yn y flwyddyn 1880, drachefn, rhoddwyd front newydd i'r capel, ac adnewyddwyd ef drwyddo, fel y mae yn awr yn un o'r capelau harddaf a mwyaf cysurus yn y cwmpasoedd. Aeth y draul gydag ef y tro diweddaf hwn yn 1200p. Yr oedd y gangen i Gorphwysfa newydd ymadael o Nazareth pan yr anturiwyd ar y gorchwyl. Bu cynulleidfa Nazareth yn addoli mewn pabell gerllaw, tra buwyd yn adeiladu, ac y mae yma lawer o son hyd heddyw am yr amser difyr a dreuliwyd yn y babell. Daeth amryw i wrando nad oeddynt yn arfer dyfod i'r capel, ac y mae y rhai hyny yn aelodau er's blynyddoedd bellach. Y personau fu a'r llaw benaf gyda'r adeiladu y tro diweddaf oeddynt, y gweinidog a'r blaenoriaid ar y pryd. Tuag at dalu y ddyled, fisol yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd y casgliadau cesglir yn hyn y blynyddoedd cyntaf o 8p. i 10p. yn y mis. Hefyd, rhoddid yr elw a dderbynid oddiwrth y cyfarfodydd llenyddol blynyddol i'r un amcan, a bydd hwn yn amrywio o 15p. i 25p.