Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/74

Gwirwyd y dudalen hon

yn flynyddol. Heblaw hyn, yr ydys er's tair blynedd yn casglu ar y dydd diolchgarwch,—casglwyd y llynedd (1889) yn agos i 40p. felly. A gwneir ychydig gyda'r Gymdeithas Arianol.

Rhoddodd hen grefyddwyr y Penrhyn eu gwyneb i'r Ysgol Sabbothol gyda'r rhai cyntaf yn y rhan yma o'r sir. Bernir iddi gael ei chychwyn mewn hen dŷ yn y Pant (yr hwn, erbyn hyn, sydd wedi ei chwalu), yn y flwyddyn 1790. Ei diben ar y cyntaf oedd cael y plant ynghyd rhag halogi dydd yr Arglwydd. Yr oedd y pechod hwn yn uchel ei ben yma ar y pryd. Y ddau a gafodd yr anrhydedd o'i chychwyn oeddynt Evan Thomas, gwehydd, a Dafydd Sion James. Ymhen amser, gosodwyd y cyntaf, yr hwn oedd ŵr dengar a goleuedig, yn arolygwr, neu yn hytrach yn flaenor yr ysgol, a'r olaf i ofalu am y canu. Er fod capel wedi ei adeiladu er's 13eg o flynyddoedd, ni ystyrid yr ysgol ar y dechreu yn ddigon teilwng a chysegredig i gael ei chadw ynddo. Gan y gwelid fod llwyddiant yn ei dilyn, rhoddodd Robert Morris, Joiner, Robert Sion Ismael, a William Ismael eu cynorthwy iddi. Cafodd yr ysgol cyn hir, modd bynag, ddyfod i'r capel, a hysbysir mai ei rhif y pryd hyny oedd 25. Yn y flwyddyn 1807, yr oedd y nifer yn 50, a golwg siriol ar y gwaith; ac erbyn agor yr ail gapel, sef Bethel, yn 1815, yr oedd yn rhifo 112. Gŵr a gymerodd ran flaenllaw gyda hi yn Bethel ydoedd John Williams, Plasnewydd. Bu yn arweinydd gweithgar yn yr ysgol am dymor lled faith, hyd nes y symudodd i Gonwy, lle y terfynodd ei oes yn wasanaethgar gyda theyrnas y Gwaredwr. Un arall hynod ffyddlon gyda dysgu plant bach ydoedd William Edwards, Caegwyn. William Llwyd, Meusyddllydain, hefyd fu Yn llafurus iawn, ac yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus i hel rhai i'r ysgol. Byddai yn myned o gwmpas y tai awr cyn y dechreu, a byddai ei arswyd ar y mwyaf anystyriol, ac ni omeddai neb ufuddhau iddo. Oherwydd ei weithgarwch gyda hyn, galwyd ef "y cenhadwr cartrefol.'