fel arfer. Cyfodai Ellis Humphrey ar ei draed gyda bod y cyfarfod eglwysig wedi dechreu, a dywedai, "Y mae hon a hon (gan ei henwi wrth ei henw) yma heno, ac y mae yn galw am ddisgyblaeth. Be wnawn ni iddi hi? Y mae hi wedi addo priodi dau; glywaist ti?" ebai wrth ei gyd-flaenor. "Mi glywais ben gair," ebai Robert Ellis. "Dear me," ebai Ellis Humphrey, drachefn, "priodi dau, priodi dau! Mae priodi un yn beth mawr; dear me, priodi dau! Beth wnawn ni iddi hi?" "Torwch hi allan i'w chrogi," ebai Dafydd Sion James. "Ie, mae hynyna yn air mawr hefyd," ebe R. E. "Hon a hon," dywedai drachefn, "gwell i chwi fyned allan." A dyna y ddisgyblaeth drosodd.
Byddai ymrafaelion beunydd yn eglwys y Penrhyn; yn gymaint felly nes yr oedd wedi enill y cymeriad o fod yn eglwys gwerylgar. Richard Jones, y Wern, a anfonid dros y Cyfarfod Misol y rhan fynychaf i wastadhau y cwerylon yn eu plith. Cyfodai y cyfryw gwerylon gan mwyaf o bethau bach iawn. Wrth drin rhyw achos o'r fath yno ryw dro, dywedai Richard Jones, "Fe welsoch y brain yn crawcian, a'r piogod yn ysgrechian ac yn neidio trwy eu gilydd ar ochr y ffos, uwchben eu hysglyfaeth; gallech feddwl mai tarw oedd y gelain y gwnaent gymaint o dwrw uwch ei ben, ond nid oedd yno wedi'r cwbl ddim ond twrch daear wedi trigo." Dywediad y Parch. Richard Humphreys am danynt ydoedd, "Mae pobl y Penrhyn yn debyg iawn i ŵr a gwraig yn y Dyffryn acw, y maent yn ffraeo bob amser, ond ganddynt hwy y mae mwyaf o blant wedy'n. Felly y maent yn y Penrhyn, er yr holl ffraeo sydd yno, mae rhywrai yn dyfod atynt i'r seiat yn fynych."
Y BLAENORIAID.
ELLIS HUMPHREYS.
John Pritchard, Hafod-y-mynydd, ac un arall na cheir ei enw, oedd y ddau flaenor cyntaf, am y rhai y ceir crybwylliad