Mater o ofid yn ddiau ydyw nad yw enw y ddau ŵr ieuanc a aethant gyda'i gilydd i gaban y gweithwyr yn chwarel St. James yn wybyddus, ac ofer, o bosibl, ydyw ceisio dyfalu bellach pwy oeddynt. Dywedid, fodd bynnag, yn dra phendant gan yr hen drigolion " ym Mhenrhos Llugwy, Môn, mai Owen Tomos Rolant oedd un ohonynt, ac mai'r Capten Owen William Morgan, o'r plwyf cyfagos, Llanallgo, oedd y llall. Dywedai Mr. Hugh Jones, Llain Farged, Moelfre, yr hwn, pan gafwyd yr hanes o'i enau, oedd yn hynafgwr chwech a phedwar ugain oed, effro ei feddwl a bywiog ei gôf, iddo glywed gan ei dad, oedd â'i gartref ym Mhenrhos Llugwy ac a adwaenai Owen Tomos Rolant, bod yr hen bregethwr yn arfer adrodd y modd y byddai, oherwydd ei anallu i ddilyn gwasanaeth Saesneg, yn cerdded ar fore Saboth allan i'r wlad, a'i Feibl dan ei gesail," er cael lle tawel i'w ddarllen; ac iddo droi i gaban mewn chwarel; chwarel grud" (sandstone)—a bod O. W. Morgan wedi dyfod gydag ef, ac yn ddiweddarach un neu ddau eraill. Adroddir hyn gennym yn unig oherwydd mai dyma'r "traddodiad" a gredid yn gyffredinol yn ardal enedigol y ddau ŵr, ar hyd y blynyddoedd. Ac yn sicr, ar wahan efallai i'r disgrifiad a roddir o'r ddau fel "dau ŵr ieuanc," nid oes dim yn y traddodiad yn amhosibl, nac yn anhebygol, oherwydd gwyddis eu bod yn arfer dyfod i'r dref yn lled fynych; eu bod eu dau yn ddynion gwir grefyddol, ac yn dra thebyg o deimlo pryder nid yn unig am eu crefydd bersonol, ond hefyd am amgylchiadau crefyddol eu cyd-genedl yn y dref.
Er bod ansicrwydd gyda golwg ar y ddau gyntaf a droisant y caban yn gysegr, y mae enw un o'r ddau a ymunodd yn fuan â hwy wedi ei gadw,—Owen Owens. Dywedai Mr. David Roberts, Hope Street, yng nghyfarfod dathlu Canmlwyddiant Methodistiaeth Liverpool yn 1882, ei fod ef yn adnabod Owen Owens yn dda, ac iddo gael addewid ganddo oddeutu'r flwyddyn 1836, y deuai i Gymanfa'r Sulgwyn y flwyddyn honno, er mwyn i gynulleidfaoedd y dref gael gweled un o sylfaenwyr yr Achos. Cyn medru ohono gyflawni ei addewid, fodd bynnag, daliwyd ef gan afiechyd, a phallodd ei nerth. Ychydig o hanes Owen Owens sydd ar gael. Mab tafarn a elwid y Star Inn yn Llan-