i'w dŷ, sylw arbennig. Ef, yn ddiau, ydyw'r gŵr y rhaid ei olygu fel "sylfaenydd" Methodistiaeth y ddinas. Genedigol ydoedd o Ysgeifiog, Sir Fflint, a mwynwr wrth ei alwedigaeth. Yn y flwyddyn 1761, ac ef yn saith ar hugain oed, ymunodd â'r Methodistiaid, gan ymaelodi yn eglwys fechan y Berthen Gron. Yr oedd ei wraig hefyd yn aelod o'r un eglwys. Pan drodd ef at grefydd, torrodd erledigaeth o'r ffyrnicaf arno. Gwawdid ef gan ei gyd-weithwyr, a gormesid ef gan ei feistriaid. Wedi methu ei orchfygu drwy orthrwm, ceisiwyd ei ddenu a'i lithio ag addewidion o ddyrchafiad yn ei waith. Dioddefodd ei boenydio am yr ysbaid maith o ugain mlynedd. O'r diwedd aeth y gorthrwm cyn drymed fel y bu gorfod arno adael ei wlad, ac yn 1781 daeth i Liverpool i geisio gwaith i'w gynnal ef a'i deulu. Gallasem dybied nad lle addawol am waith i ŵr saith a deugain oed, a dreuliasai ei holl flynyddoedd mewn gwaith mwyn, a fuasai tref Liverpool; ond gwelir llaw Rhag- luniaeth yn dra eglur yn ei arwain yno; a gwelir hefyd lawn mor eglur i'r ymgais i atal y gwaith da yn ei wlad enedigol brofi yn achlysur i'w gychwyn a'i ledaenu yn Liverpool. Am ryw dymor cafodd waith gyda seiri llongau; a diau mai ei enw ef a welir yn Directory 1781 fel " William Lloyd, shipwright, 6 Liver Street,"—heol fechan allan o Park Lane. Lled siomedig a phryderus a fu ei brofiad cyntaf yn Liverpool. Edrychai fel pe bai ffawd yn gwgu arno yn fuan; collodd ei waith oherwydd cenfigen y seiri fod un na ddysgasai eu crefft yn cyd-weithio â hwy. Wedi methu â sicrhau gwaith arall, penderfynodd ddechrau busnes bychan ei hun, ac ai o amgylch o dŷ i dŷ i werthu hosanau gwlân Cymru. Enillai fel hyn ddigon i'w gadw yn gysurus, ac fel "William Lloyd, hosier," y disgrifir ef o hynny allan yn rhestr trigolion y dref. Yn ôl Directories 1805, 1807, ac 1810, symudasai o "92 back of Pitt Street" i 12 Union Street; symudodd drachefn i Milk Street, lle y bu farw ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ar y 1af o Fawrth, 1810, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys St. Paul, ar y 5ed[1] o'r mis. Adroddir bod yn ei gladdedigaeth oddeutu mil o
- ↑ Yn Llyfr Cofrestriad Claddedigaethau Eglwys St. Paul, ceir y cofnod a ganlyn: "Bu farw W. Llwyd, llafurwr, Milk Street, yn 76 ml. oed, Mawrth 1, 1810, a chladdwyd ef Mawrth 5, 1810, yn Mynwent St. Paul's Square. Rhif ei fedd 32."