nos Saboth, a'r capel wedi ei orlenwi gan wrandawyr. Cym- erodd yn destun: Yr ynfyd a ddywed yn ei galon, Nid oes un Duw.' Yn anterth nerth a dylanwad y bregeth, pan yn gosod y gynulleidfa ar ei gocheliad rhag ynfydrwydd annuwiaeth, dywedodd: "Yr wyf yn deall fod yn awr yn eich mysg gyd-wladwr i mi, yn pregethu athrawiaeth cythreuliaid yn y dafarn. Mae yn gwadu y Bod o Dduw, yn gwadu bodolaeth enaid mewn dyn, yn gwadu byd arall, yn gwadu barn, yn gwadu bodolaeth angel, yn gwadu bodolaeth y cythraul;— y dyn ei hun, yn gwadu ei dad!" Wele holl ddylanwad y telynor wedi ei ddinistrio ag un frawddeg! Ymhen ychydig ddyddiau gwelid Shon Matthew yn ymadael, a'i delyn ar ei gefn, ac ni welwyd mohono yn Liverpool byth yn rhagor!
Yr unig enw arall a gofnodir ynglŷn â dechreuad cyntaf Methodistiaeth Liverpool heblaw y rhai a grybwyllwyd (Owen Tomos Rolant, William Llwyd, a'i wraig, Mari Llwyd; Evan Roberts, Owen Owens, Owen William Morgan, Israel Matthew a Hugh Evan) ydyw enw un Grace Lewis. Daethai hithau hefyd i'r dref o Fôn, ond o ba ran o'r Sir ni wyddom i sicrwydd. Dywedai'r diweddar Barch. William Pritchard, Pentraeth, yr hwn a chwiliodd lawer i hanes Methodistiaeth ym Môn, mai o'r un gymdogaeth ag Owen Tomos Rolant ac Owen William Morgan y daethai Grace Lewis. Gwelir bod pedwar o'r rhai a enwyd gennym yn dyfod o'r un cwr o Fôn. Ni lwyddasom i gael rhagor o hanes Grace Lewis nag a adroddir ym "Methodistiaeth Cymru," a chan Pedr Fardd yn y "Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynnydd y Trefnyddion Calfinaidd Cymreig yn Llynlleifiad." Dywaid yr olaf iddi ddyfod i'r dref "gyda'i theulu," yr hyn a awgryma ei bod naill ai yn briod neu ynte yn weddw; a dywaid ymhellach iddi fod yn aelod rheolaidd o Gorff y Trefnyddion Calfinaidd am lawer o flynyddau cyn iddi ymadael o Fôn." Ymunodd ar y dechrau â'r eglwys Wesleaidd Saesneg yn Pitt Street, fel y gwnaeth William Llwyd, ond symudodd cyn hir i eglwys y Bedyddwyr Saesneg yn Byrom Street. Nid oedd "daliadau y brodyr yn Pitt Street" yn gyd-unol â'i hegwyddorion hi." Yn eglwys Byrom Street yr oedd gweinidog tra phoblogaidd, y Parch. Samuel Medley, gŵr a hanes diddorol iddo, a ddechreuodd ei yrfa