hwy o ladrata'r coed. Ni wrandewid ar esboniad mor anhygoel ag a geisiai'r Cymry diniwed ei roddi, ac aed â hwy i'r ddalfa; ac yno y buont am rai oriau, oni chafwyd sicrwydd o'u gonestrwydd.
Un o'r pedwar, a'r unig un y gwyddom ei enw, oedd John Davies, pregethwr a ddaethai i fyw i'r dref ychydig fisoedd yn flaenorol. Ef oedd y pregethwr Cymraeg cyntaf i ymsefydlu yn y dref. Genedigol ydoedd o Gefn Meiriadog, gerllaw Llanelwy. Daethai ef a'i deulu i Liverpool o Henllan, Sir Ddinbych, rywbryd yn ystod y flwyddyn 1786. O ran galwedigaeth, gwehydd ydoedd. Dechreuasai bregethu yn eglwys Brynbugad, Tanyfron. Prin oedd ei ddawn, ond yr oedd yn fawr mewn ffyddlondeb: gwr da, ffyddlon a diwyd," a bu, ebe Pedr Fardd, " yn ddefnyddiol iawn fel prif olygwr a henuriad yr eglwys." Gwanaidd ydoedd o ran iechyd, ac ymhen oddeutu dwy flynedd wedi ei ddyfod i'r dref, bu farw, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys St. Paul.
Oddeutu'r un adeg ag y daethai John Davies i'r dref derbyniodd yr eglwys fechan rai ychwanegiadau gwerthfawr eraill at ei haelodaeth, dau yn arbennig y bu iddynt le amlwg yn hanes Methodistiaeth y dref am gyfnod maith. Ceir adrodd eu hanes yn helaethach mewn pennod ddilynol. Y cyntaf oedd Thomas Edwards, gôf o ran ei alwedigaeth, genedigol o Lan- eilian, Sir Ddinbych,-gŵr a gawsai droedigaeth amlwg. Yr ail oedd Thomas Hughes, saer coed, genedigol o'r Bala. Dywedir iddo ef ddyfod i Liverpool flwyddyn neu ragor yn ddiweddarach na Thomas Edwards,-oddeutu gwanwyn y flwyddyn 1787, ychydig wythnosau cyn agoriad capel Pall Mall. Profedigaeth fawr i'r eglwys oedd marw y pregethwr syml a defnyddiol John Davies; ond yr un flwyddyn ag y symudwyd ef, 1789, ar gymhelliad yr eglwys dechreuodd y ddau ŵr a enwyd, Thomas Edwards a Thomas Hughes, bregethu, a cheir gweled bod eu gwasanaeth maith a'u llafur ffyddlon wedi bod o fendith ddirfawr i'r Achos yn ei flynyddoedd bore.
Yr un flwyddyn drachefn, 1789, neu ymhen dwy flynedd wedi agoriad y capel, anghenraid a fu ei helaethu. Parhai'r Cymry i ddyfod i'r dref "yn finteioedd." Er clod i'n cenedl dywedir mai un peth a barodd y cynnydd ydoedd y wybodaeth