tad i ymgynghori â Daniel Jones, oedd yn byw y pryd hwnnw yn Garden Lane (Freemason Row yn awr), yng nghwr y wlad; aethant hwythau i fyw i'r un gymdogaeth, gan ddilyn y moddion yn Pall Mall ar y Sabothau. Dilynai'r bachgen yr Ysgol Sabothol yno hefyd. Rhoddwyd ef yn brentis gyda gwneuthurwr dodrefn. Dangosodd yn fuan fedr eithriadol fel cerfiwr mewn coed, a rhyddhawyd ef o'i brentisiaeth er mwyn mynd i weithio mewn mynnor. Dygwyd y bachgen addawol i sylw Mr. Roscoe, gŵr cyfoethog oedd â'i balasdy yn Allerton, noddwr llên a chelf, ac yn y man danfonodd ef, ar ei draul ei hun, i Rufain i ddilyn ei efrydiau. Daeth y bachgen ieuanc yn enwog led-led y byd fel cerflunydd o'r dosbarth blaenaf,—John Gibson, R.A.[1] Ymwelodd â Liverpool yn 1847, pan yn paratoi ei ddelw o Huskisson i'w gosod yng nghladdfa St. James; ac fel yr adroddwyd, dywedir iddo ei gosod yn union ar y fan lle safai gynt fwthyn y chwarelwyr, a gysegrwyd drwy weddïau y gwŷr ieuanc a roisant gychwyniad i Fethodistiaeth y dref. Os cywir yr hyn a adroddir am safle cerf-ddelw Huskisson, ni ellir llai na gofyn, tybed ai yn fwriadol y dewisodd y Cymro athrylithgar y llecyn hwn, ac efe yn gwybod hanes ei gysylltiadau cysegredig? Ceir nifer o enghreifftiau o waith John Gibson yn y ddinas. Treuliodd ran helaethaf ei oes yn Rhufain, ac yno y bu farw, yn nechrau 1866. Dywedir iddo gadw ei acen Gymreig hyd y diwedd, ynghyd â rhai ymadroddion " a ddygasai gydag ef o Gymru," megis "Yes, sure"![2] " Bu farw ei rieni yn Liverpool, a chladdwyd y ddau ym mynwent eglwys St. John, a safai y tucefn i St. George's Hall, lle ceir y St. John's Gardens yn awr.
Gŵr amlwg a gweithgar yn eglwys Pall Mall yn y blynyddoedd cyntaf hyn oedd Owen Williams,—brodor o Fôn, a adweinid yn ei hen ardal fel "y dyrnwr mawr." Meddai ar gorff eithriadol gryf, a dywedid y gallai ddyrnu mwy mewn un dydd na'r cyffredin o ddynion mewn tridiau. Dyn mwyn, tirion ydoedd, awyddus am addysgu ei hun a dysgu eraill hefyd. Ar y cyntaf gweithiai fel labrwr cyffredin ar y Prince's