Wyddfa, o bryd i bryd, godi i ryw gydymdeimlad â thawelwch a chlaerder difesur y cymundeb nefol ag y mae ei phinaclau hi yn fynych yn rhyw arwyddlun ohono.
Rhaid addef nad oedd lliaws yr hen bererinion yn rhyw agored iawn i ddylanwadau allanol natur. Eithr dir yw fod rhai ohonynt felly. Ac ynghanol y fath ryfeddod o amrywiaeth mewn lluniau a lliwiau, mewn mynydd a nant a llyn, tybed na ddywedodd ambell un ohonynt wrtho'i hun, ac yntau 'mewn myfyr fel mewn hun," eiriau Pantycelyn?—
O f'enaid, edrych arno'n awr,
Yn llanw'r nef, yn llanw'r llawr,
Yn holl ogoniant dwr a thir.
Mae'n ddiau fod myfyrdodau lliaws o'r hen bererinion wedi cymeryd cyfeiriad nid cwbl anhebyg i eiddo William Williams Llandegai, pan aeth efe drwodd yma am y tro cyntaf, sef ydoedd y rheiny: "Nid yw'r mynediad i mewn i'r dyffryn hwn [sef Nant Gwynant] o bentre Beddgelert ond lled lôn gul glonciog, hyd lan afon, a'r nad yw'n addo boddineb mawr i gywreinrwydd y teithiwr; ond mor hyfryd i'w deimlad weled ei hun yn ddirybudd ddiarwybod yn cael ei gludo megys i wlad swyn! Nis gallswn beidio tynnu gwers ar fy mynediad cyntaf i mewn, oddiwrth y dywediad hwnnw o eiddo'n Gwaredwr, 'Cul yw'r ffordd sy'n arwain i'r bywyd.' Eithr gwynfydedigrwydd y cyflwr hwnnw a wnelai eithaf daledigaeth am boen a blinder y mynediad i mewn iddo." (Observations on the Snowdon Mountains, 1802, t. 50).
Tŷb rhai nad yw pobl wedi treulio oes wrth odreu'r Wyddfa ddim yn teimlo dyddordeb neilltuol ynddi, ac nad yw crefydd chwaith yn tueddu i ddeffro cywreinrwydd yngwydd rhyfeddodau natur, o leiaf lle na byddis ddim wedi derbyn amaethiad uchel ar y galluoedd naturiol. Eithr cymerer yma enghraifft deg o ddull dyn o'r wlad o deimlo yn mhresenoldeb y Wyddfa, un a dreuliodd ei oes wrth ei godreu, llafurwr y ddaear yn nechre oes a mwnwr wedi hynny, ac un y deffrowyd ei natur gan y awyr" yn niwygiad mawr Beddgelert, ac un y digonnwyd ei anghenion dyfnaf â gras Efengyl Crist. Dyma fel yr ysgrifennodd Gruffydd Prisiart, un o hen flaenoriaid Beddgelert, ei fyfyrdodau am y Wyddfa: "O un cyfeiriad cyfyd fel colofn dair-onglog, fel y bidog canu yn yr