yn meinhau tuag i fyny; o gyfeiriad arall ymddengys fel astell deneu, yn llydan yn y gwaelod, yn culhau oddiarnodd; o gyfeiriad arall edrych yn hanner cron, fel cynog neu ystên odro fawr, â chlust uchel wrthi; o gyfeiriad arall y mae fel yn cuddio'i phen, a dim ond y gwarr yn y golwg; o gyfeiriad arall ymddengys fel menyw yn ei heistedd a'i chlôg am dani, ei bronnau yn taflu allan yn uchel a'i phen ar led-ogwydd yn ol . . . . Dodwyd gorchuddlen drosti i amddiffyn ei hurddas, a wisg yn gyffredin haf a gaeaf, ac a amrywia yn ei liw, weithiau'n llwyd-ddu, bryd arall yn oleuwen, bryd arall yn rhuddgoch a gwyn. Ys dywed un o hen feirdd Cymru:
Eryri hardd oreurog.
Liwus, wych, lân, laes ei chlog,
Bur enwog, lwys, bron y glod,
Brenhines bryniau hynod.
Trwy'r hafddydd tywydd tês,
Yn bennoeth, byddi baunes;
A phob gaeaf oeraf fydd,
Tan awyr cei het newydd,
A mantell uwch cafell cwm,
Yn gwrlid fel gwyn garlwm;
Rhag fferdod a rhyndod rhew,
Hyll yw adrodd, a llwydrew.
Yr un orchudd-len sydd iddi, a wisgir ganddi ar wahanol brydiau mewn gwahanol ddulliau, ac a dywynna mewn gwahanol liwiau, ond gan y noda 'r bardd ei bod yn cael het a mantell newydd bob gaeaf, pa sawl het a mantell a gafodd er dechreu'r cread? A phwy roddodd yr enw Gwydd-fan iddi? A pha Sais a roes yr enw Snowdon iddi? Pwy a esgynnodd i'w phen gyntaf, ac o ba gwrr iddi yr esgynnodd ? Pwy a ysbiodd gyntaf drwy ddrych o wydr ar ei phen? Pwy gyntaf a welodd oddiami yr Ynys Werdd ac Ynys Manaw a chreigiau'r Alban a siroedd Lloegr ? Pwy oedd yr arweinydd cyntaf i'w phen, a phwy a arweiniwyd ganddo? Pa faint a gafodd am ei lafur? Pwy a farchogodd gyntaf i'w phen, ac o ba le ? Pa sawl boneddwr a boneddiges a fu ar ei phen? a pha sawl dyn a dynes o'r cyffredin bobl ? Pa sawl llwdn dafad fu'n pori arni? Pa sawl llwynog fu'n llochesu ynddi? Pa sawl cigfran fu'n nythu ynddi? Ac os gwyddost ei huchder, pa faint ydyw ei dyfnder? faint ei thryfesur? pa sawl troedfedd betryal ydyw ei chrynswth? pa'r faint ei phwysau? Beth yw'r achos fod cregin yn ei cherryg? A fu hi'n waelod i'r môr unwaith? Os bu, pa fodd yr aeth yn sychdir? Os gelli, ateb dithau!" Fe