Dechreuai'r ardalwyr ryfeddu ar ol y bwystfil.' A mawr yr ymwrwst ar hyd yr ardaloedd oherwydd y digwyddiad. Ond wedi'r cwbl nid oedd ond twyll. Mewn cyfrinach yr oedd y gwr â thylwyth arall, mewn cwrr arall o'r sir, oedd yn bathu arian drwg. Gallaswn adrodd rhagor am y modd y byddai'r ystrywgar yn twyllo'r chud a'r ofergoelus o barth y Tylwyth Teg ac ymddanghosiad ysbrydion.
"Gynt yr oedd y gred mewn ymddanghosiad ysbrydion yn dra chyffredinol. Nid oedd braidd lwyn o goed na chil adwy na byddai rhyw ysbryd neu gilydd yn y lle. Yr oedd un hen wr yn nodedig am eu canfod. Yr oedd yn yr ardal un bwg a alwai'r ardalwyr yn 'lloicoed.' Dywedai'r hen wr am hwn mai clamp o lo braf ydoedd, a phluen wen ar ei grwper, ac yn brefu yn ddiniwed. Yr oedd hen draddodiad y byddai rhywbeth yn ymrithio ar y ffordd sy'n arwain o'r pentref i un o'r nentydd. Ryw noswaith dyma amaethwr yn cyfeirio adref heibio'r lle yn lled hwyr. Clywai swn dieithr a chynnwrf fel yr elai ymlaen, a meddiennid ef gan y fath arswyd nes ei fod yn glafoerian yn cyrraedd adref. Troes y peth allan yn ddim ond gwaith bechgyn direidus yn cymeryd mantais ar yr hen draddodiad ynghylch y lle. Yr oedd rhyw ellyll a elwid Jac y Lanter yn gwibio yn y nentydd. Dywedid y byddai'n ceisio denu rhai dros y clogwyni i dorri eu gyddfau, ac eraill i'r dwfr i foddi.
"Yr oedd pedwar ban y plwyf yn gwrando'n gyson, a byddai'r cymun yn cael ei weinyddu ar y Pasg. Ond yr oedd bucheddau'r gweinidogion yn brawf na wyddent nemor am grefydd bersonol, heblaw fod eu pregethau yn aml yn rhywbeth is nag Arminiaeth. Pan yn fachgennyn, mi glywais fy nhad yn ymddiddan â hen lan-wraig. Gofynnai fy nhad, pa un oedd ffordd cadwedigaeth, ai drwy'r cyfamod gweithredoedd ai'r cyfamod gras? Atebodd hithau mai y gweithredoedd. Gofynnodd yntau eilwaith, pa beth oedd ganddi hi wedi ei wneuthur? Atebodd hithau na wnaethai ddrwg erioed, na bu'n lladrata nac yn puteinio, a'i bod wedi myned i'r llan bob Sul tra gallodd, a phaham na chawsai fyned i'r nefoedd? Yr oedd yr hen wraig yn gynllun teg o'r plwyfolion. Deddf gweithredoedd ac nid deddf ffydd oedd ganddynt. Gallwn feddwl wrth yr hyn a welais ac a glywais mai hynod ddifoes oedd y gwrandawyr [yn y llan] yn aml. Rhof un ffaith i brofi hyn. Yr oedd gwr yn