Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

i'r capel filltir o ffordd, ac i mewn yn llewys ei grys gyda'r cwn, y cnuf gwlan, y gwellaif a'r pastwn a'r cwbl. Y chwys yn pistyllio dros ei wyneb. Yntau'n cymeryd y cnuf gwlan i'w sychu, nes fod y gwlan yn glynu yn ei farf arw, a golwg ddigrif arno, er yn gwbl ddifrif a diniwed. Ac yn y drych hwnnw yr arhosodd drwy'r oedfa, yn wrthrych difyrrwch i rai yn y gynulleidfa, ac yn wrthrych synedigaeth yn ddiau i'r gwr dierth o'r Deheudir. Er yn cymeryd arnynt gospi eraill ar brydiau, gwnelent hynny gydag amcan i wella'r drwgweithredwr. Yr oeddynt yn gydnabyddus â hanes ac achyddiaeth yr holl ardal. Perthynai iddynt graffter i adnabod dynion, ac am hynny yr oedd gweinyddiaeth cosp oddiwrthynt yn ddifeth. Meibion natur oeddynt, ac yn perthyn i oruchwyliaeth a aeth yn hen ac a ddiflannodd, gan roi lle i'r hyn y mae'r ysgrifennydd braidd yn ameu sy'n well. Erthygl fawr eu credo, mai Duw yw Pen-rheolwr y byd, a bod drwg anesgorol ym mhob anwiredd a thwyll. (Gorffennaf 24).

Yr oedd Elis a Neli Jones yn frawd a chwaer, yn byw gyda'i gilydd, a'r ddau yn ddibriod, ac yn byw dan yr unto a'u chwaer Mari, sef gwraig William Jones Llwyn y forwyn, un o flaenoriaid Rhyd-ddu. Pedwar hen bererin cywir. Er hynny, nid oedd Elis Jones yn proffesu crefydd. Tebyg mai byw dan lywodraeth ac yn rhwymedigaeth ofn yr oedd lliaws o'r dosbarth yma y pryd hwnnw, ofn sydd bellach wedi cilio ymaith yn rhy lwyr. Gelwir ef yn gristion cywir gan yr ysgrifennydd, ac yr oedd yn ddiddichell fel maban. Darllennai bennod gyfan ar ei hyd bob dydd wrth ddyledswydd, beth bynnag fyddai'r hyd neu beth bynnag fyddai'r pwnc. Aeth i Lundain ar dro fel tyst yn achos anghydwelediad ynglyn â chwarel Bwlch Cwmllan. Gan ddirnad pwys ei dystiolaeth yn ddiau, ceisiodd cyfreithiwr y blaid wrthwynebol atal ei dystiolaeth ar y tir ei fod yn ddyn rhy anwybodus i roi pwys ar ddim a ddywedid ganddo. Ac yr oedd yr olwg syml a gwledig oedd arno yn rhoi grym yn y ddadl, neu fe ddisgwylid hynny. Yr oedd y barnwr ar y fainc yn rhy hirben, pa fodd bynnag, i adael i'r penogyn coch yma gael ei dynnu ar draws y trywydd. Gofynnodd y barnwr drwy'r cyfieithydd, A wyddochi beth yw'r llyfr yna?" "Gwn o'r gore," ebe yntau. "A ddarfu i chwi ei ddarllen erioed?" "Do." "Pa bryd ?" "Bore ddoe cyn cychwyn yma." "A fyddwchi yn ei ddarllen yn aml?" "Byddaf, yn darllen pennod ohono bob dydd ers yn agos i drigian mlynedd." Yna fe droes