Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/125

Gwirwyd y dudalen hon

y barnwr i gyfarch y cyfreithwyr: "Mae'r hynafgwr yma o fryniau Cymru yn peri i ni gywilyddio, a byddai bron yn anichonadwy i wr fel efe ddweyd celwydd yn fwriadol." Yna fe archodd gymeryd ei dystiolaeth; a rhoes tystiolaeth Elis Jones derfyn ar yr ymrafael. Yr oedd y boneddigion yn y llys yn mynnu ysgwyd llaw âg ef ar y diwedd. (Medi 11). A disgleiriach nag yntau ei chwiorydd a'i frawd yng nghyfraith, fel y ceir crybwyll am danynt hwy yng nghorff yr hanes.

Fe ganfyddir mai amcan yr enghreifftiau amrywiol a rowd ydyw dangos rhyw waelod o gymeriad a berthynai i bobl yr ardal yn yr amser gynt. Tybir, hefyd, fod rhyw linell ysgafn o wahaniaethiad nodweddiad perthynol i'r rhanbarth yma yn dod i'r golwg ynddynt, a'u bod, gan hynny, yn rhyw help i roi gerbron bortread cymeriad ysbrydol yr ardal, neu ryw amlinelliad ysgafn ohono. Fe geisir rhoi'r prydwedd yn amlycach eto.

Dyma nodiad Carneddog ar Ddirwest yn yr ardal: "Ystyrrid plwyf Beddgelert yn un o'r lleoedd meddwaf yn y Gogledd cyn toriad allan y diwygiad mawr. Prif orchest y llymeitwyr oedd yfed cynnwys y chwart mawr' ar un traflynciad, ac yna ceid ef yn rhad. Yr oedd yn y pentref bedair o dafarnau,—tair yn rhai pur fawrion, ond gwr y dafarn leiaf a wnaeth ei ffortiwn, a chododd dŷ helaeth, a elwid ar lafar yn Blas Gabriel. Yn 1833 daeth Dirwest i fri. Anrhegwyd fi yn ddiweddar â medal ddirwestol y cyfnod hwnnw. Caed yr hen dlws yn yr afon ym Mlaen Nantmor yng Ngorffennaf, 1902. Y mae'n lled fawr o faint gyda thwll ynddo. O amgylch un tu iddo, fe geir mewn llythrennau breision,—'Ardystiad Dirwestol. Sefydlwyd 1833.' Wrth y twll ceir arlun o 'law mewn llaw.' Ar ei ganol, rhwng dwy gangen glymedig ceir,—'Yr ydym yn ymrwymo i ymwrthod â diodydd meddwawl, ond yn Feddygol.' O dan hyn ceir darlun o'r Delyn Gymreig. Ar yr ochr arall, ceir darlun o deulu sobr, dedwydd a llon. Sefydlodd Gruffydd Prisiart Gymdeithas Cymedroldeb Beddgelert' ar Ebrill 10, 1834. Gwnaeth ddaioni dirfawr, er nad oedd rhifedi yr aelodau eto yn lluosog. Tachwedd, 26, 1836, cawn i Gymdeithas Lwyrymataliol gael ei sefydlu ym Meddgelert. Ymdaenodd y don ddirwestol dros 'oror yr Eryri' o ben i ben. Ardystiodd rhai o feddwon pennaf y plwyf. Cynhelid cyrddau yn y pentref, a deuai pobl y nentydd yno yn lluoedd brwdfrydig. Er mwyn cael