troi allan i orymdeithio, gan fod hynny mewn bri mawr, penderfynwyd prynnu y 'Faner Fawr,' fel ei gelwid. Y mae'r faner ardderchog hon ar gael eto, ac mewn cadwraeth dda. Y mae ei lliwiau, ei harwyddeiriau a'i lluniau yn berffaith eglur, ac yn hollol Gymreig. Dyma'r hyn sydd arni, at i fyny: 'Meddwdod o'r Byd. Cymdeithas Ddirwestol Beddgelert. Sefydlwyd Tachwedd 26, 1836. Ar y llaw aswy, gwelir lluniau'r glwth a'r meddw, a delw o Angeu a'i bladur yn ei law. Gwelir meddwyn ar lawr, a'i wraig yn wylo, a photel o wirod yn ymyl. O dan hynny y geiriau, Y meddw a'r glwth a ddaw i dlodi. Ar y llaw ddehau, gwelir tad a mam yn eistedd yn eu parlwr clyd, gyda'r Beibl yn eu llaw. Arwyddion llawnder yn gymysg â blodau. Y geiriau odditanodd, Tyred gyda ni, a ni a wnawn i ti ddaioni. O dan y cwbl y ceid y geiriau,-Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i'w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Bu llawer o orymdeithio gyda'r faner hon. Yr olwg ar y faner ar y blaen a gariai ddylanwad mawr ar y fyddin ddirwestol, ac ar feddwon yr ardaloedd. Cerid hi ar bolion gan feddwon diwygiedig. Gorymdeithiwyd i lawr i Dremadoc un tro, a phan welodd dirwestwyr ardal Nantmor a Phont Aberglaslyn y fyddin yn dod i lawr y Gymwynas, a'r Faner Fawr ar y blaen, methodd llawer o'r rhai mwyaf selog a dal heb waeddi a wylo. Yr oedd yr olygfa yn syfrdanol. Daliodd llawer eu hardystiad hyd eu bedd. Chwyldrowyd cyflwr moesol yr ardaloedd."
Dyma adroddiad yr ymwelydd â'r ysgolion adeg y Canmlwyddiant (1885): "Ni chedwir rhestr bersonol o bresenoldeb yr ysgolheigion yn yr un o'r pum ysgol. Y prif gatecismau, yr Hyfforddwr, Rhodd Tad, Rhodd Mam. Dim paratoad arbennig i athrawon na dosbarthiadau. Saith o athrawon heb fod yn aelodau eglwysig. Defnyddir y catecismau yn y dosbarthiadau isaf yn unig. Ar y cyfan, y rhan yma o'r gwaith yn gymeradwy. Dygir y gwaith ar gyfer y Cyfarfodydd Chwarterol a Blynyddol i'r ysgol, a cheir y cynllun yn ateb yn eithaf da. Nid oes gan yr un o'r ysgolion stafelloedd gwahaniaethol i'r plant, ac am hynny defnyddir llyfrau ac nid cardiau. Dim Safonau. Y nifer ar gyfartaledd ym mhob dosbarth (plant), o saith i wyth. Ym Mheniel yn unig yr arholir y plant yn flynyddol, gan eu dyrchafu o'r naill ddosbarth i'r llall. Siaredir yn erbyn drwg arferion yn niwedd yr ysgol. Tua chant o aelodau eglwysig heb ddilyn yr ysgol. Siaredir â hwy yn gy-