Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/133

Gwirwyd y dudalen hon

oedd enw gwraig Henry Tomos, merch i amaethwr oedd yn byw ar y pryd yn Hafod rhisgl, Gwynant. Yr ydoedd wedi ei hennill at grefydd ers amser. Byddai'n myned gyn belled a Brynengan ei hunan i odfeuon gras, ac yn dychwelyd ei hunan yn nyfnder nos. Weithiau byddai'n gorfoleddu bron yr holl ffordd nes cyrraedd adref. Hefyd yr oedd wedi ei hegwyddori yn dda, ac ystyried yr amser a'r manteision, ac o dueddiad dysgu a llywodraethu eraill. Bu'n addurn i'w phroffes. Wedi i Henry Tomos ymsefydlu wrth yr hen Stamps, symudodd eisteddle'r achos o Nantmor. Byddai oedfa yn y Corlwyni a lleoedd eraill yn awr ac eilwaith, ond cedwid y seiadau yn yr hen Stamps. Dioddefodd ychydig ganlynwyr yr achos lawer o anfri wrth fynd a dod o Nantmor. Yr oedd llwybr i'r llan, hefyd, yn agos i ddrws y tŷ, ac os byddai moddion ar y pryd yr elai'r llanwyr heibio caent bob anfri a fedrai tafod roi arnynt.

"Gwelwyd angen am swyddog yn rhagor, a neilltuwyd Richard Tomos, brawd Henry. Yr oedd Richard y pryd hwn yn grefyddwr gwresog, ac yn meddu gradd o ddawn i'r swydd, a mwy o wybodaeth gyffredin ac ysgrythyrol na llawer. Yr oedd Henry Tomos yn ddarostyngedig i'r pruddglwyf, yr hyn a'i gwnae yn hollol ddifudd. Ymollyngodd mor llwyr, yn y man, fel nad ymgysylltai â'r ddiadell fechan o gwbl. Tua'r adeg yma daeth teulu o sir Fon oedd yn dda arnynt yn y byd o'r enw Hughes, teulu gwir grefyddol, i fyw i Feillionnen. Cyfreithiwr ydoedd y gwr. Yr oedd y gwersyll eisoes yn edrych allan am symud i le arall. Rhoes y teulu yma dý bychan oedd ar eu tyddyn o'r enw Ty'nycoed i gynnal moddion. [Y mae llythyr o eiddo Sara Charles ar gael, cyfeiriedig at ei gwr, y 'Parch. Thos. Charles, at Mrs. Williams, Veillionnen,' sef enw morwynol gwraig y cyfreithiwr ym Meddgelert, fel y tŷb awdur cofiant Charles. Y mae'r llythyr wedi ei amseru Tach. 24, 1784. Y mae llythyr oddiwrth Charles at ei wraig o Bwllheli, wedi ei amseru Tach. 18, 1784. Y mae llythyr oddiwrth y wraig ato ef i Drawsfynydd, wedi ei amseru Tach. 25, 1784. Os yw dyfaliad y cofiannydd yn gywir, mai gwraig Hughes Meillionnen oedd Mrs. Williams Meillionnen, yna mae'n debyg y penderfynir yn lled agos amseriad symud yr achos i Dy'n y coed gan lythyr Sara Charles. Gweler T. Charles II. 515-7. Y mae gan Carneddog nodiad yma yn cywiro sylw Gruffydd Prisiart am deulu Meillionnen, ac yn dangos mai Davies oedd enw morwynol y wraig y cyfeirir