eraill. Hefyd, mhen ysbaid daeth Henry Tomos yn rhydd o'i lewyg, a daeth i'w plith ac i'w swydd. Anfonai gwraig Meillionnen ddodrefn at wasanaeth y tŷ, ynghydag ymborth a phethau eraill. Byddai'r cynghorwyr, hefyd, yn myned yno i letya weithiau, a chynhelid ambell oedfa yno. Clywais hen wr yn dweyd iddo fod yn gwrando Peter Williams yno unwaith [ar ei daith gyntaf drwy'r rhan yma o'r wlad, ebe Cameddog]. Yr oedd i'r achos elynion yn y parth yma. Dangosodd un elyniaeth mwy nag eraill. Ryw noswaith lled dywyll pan yr oedd seiat yno, daeth amaethwr cyfagos, a llifiodd bron drwodd drawstiau'r bont-bren oedd yn croesi'r afon ar y llwybr at Dy'n y coed. Wedi gorffen y cyfarfod, cychwynasant i lawr at yr afon fel arfer. Wrth fynd i lawr, dywedodd Richard Tomos, 'Yr wyf yn meddwl gyfeillion, mai gwell peidio mynd at y bont heno, rhag ofn fod rhyw berygl yn bod. Ni drown, ac a awn i lawr gyda'r afon nes mynd i'r ffordd.' Felly fa. Pe digwyddasant fyned at y bont fel arfer, yn gymaint a bod craig serth o bobtu a llyn dwfn o dani, collasai rai eu bywyd, os nad pawb. Ond er i'r diniwed ddianc, ni ddiangodd cyflawnydd y weithred. Er ei fod yn dda arno yn y byd ar y pryd, darostyngwyd ei deulu i dlodi, fel erbyn hyn nad oes yma gymaint ag un ohonynt. Rywbryd arall, yr oedd y pregethwr i ddyfod yma dros fwlch Cwmpas trayn [Cwm strallyn], ac i lawr drwy bant y Fallen i'r Gymwynas ger llaw Pont Aberglaslyn. Aeth lliaws o'r pentref i lawr i fwlch y Fallen i'w ddisgwyl. Casglodd bob un ei dwrr o gerrig i'w ymyl, y naill res yn sefyll uwchlaw y llall, a'r rhai byrraf yn y rhes flaenaf, fel na byddai perygl i'r rhai o'r tucefn eu tarro. Pan ddaeth y truan i'r golwg, ergydiodd un o'r rhes bellaf garreg, a phwy a darawodd ond un o'r bechgyn yn y rhes flaenaf, a hynny ar ei foch, nes fod twll drwy ei foch i'w enau. Ar hyn syrthiodd i lawr mewn llewyg. Yn y fan, rhuthrodd y lleill ato mewn dychryn, gan ofni eu bod wedi achosi marwolaeth ddisyfyd iddo. Felly cafodd y pregethwr druan ei arbed. Bu craith fawr ar foch y bachgen tra fu byw.
"Yn gymaint ag y byddai oedfa yn awr a phryd arall yn y Corlwyni, cymerodd Richard Edmwnd yn ei ben fyned i ambell gyfarfod misol i ymofyn pregethwr. Yr oedd yn dda arno, ac yn cadw merlen dda bob amser. Caredigrwydd at yr achos yn unig a gymhellai'r hen wr. Ond yn gymaint ag nad oedd yn swyddog, tramgwyddodd hyn Richard Tomos yn fawr, yn gymaint yn y