Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

raeth. Cafodd y lleill rybudd gan John Evans i ymadael. Rhai yn dychryn ac yn ymadael â'u hawl, ar yr amod eu bod yn cael aros ar ardreth fechan. Eraill yn ymgyfreithio. Anfonwyd rhai i garchar am ysbaid. Daliodd bawb ohonynt eu meddiant yn y tai, ond collasant feddiant o'r tir. Yn 1844, pryd y bu gwerthu ar y stâd drachefn, prynnwyd y tyddynnod agos i gyd gan y preswylwyr. Yn etholiad 1868, yr oedd 54 yn meddu pleidlais yma, pan nad oedd ond 51 ym mhlwyf mawr Llanberis i gyd, a oedd am y terfyn âg ef. Cafodd Love Jones-Parry 45 o'r pleidleisiau hyn yn erbyn Pennant, serch fod y nifer mwyaf yn gweithio mewn cloddfeydd llechi gyda'r meistradoedd i gyd yn ffafriol i hawliau Pennant.

Tua 1750 y dechreuwyd cloddio yn egniol am gerryg toi. Oddeutu 1800 symudodd lliaws o'r ardal hon i Nantlle a Llanddeiniolen a Bethesda, lle y dechreuid gweithio chwarelau newyddion yn brysur. Llwyddodd y cloddfeydd gymaint fel, yn y man, na fynnai braidd neb i fab o'r eiddynt fod mewn unrhyw alwedigaeth amgen nag fel chwarelwr. Chwarelwyr a rhai yn byw arnynt yw'r ardalwyr bellach. Dros y mynydd i'r dde, fel yr eir o Gaernarvon, y mae'r ffordd i chwarel Cors y bryniau a chwareli Nantlle; ac i'r chwith o chwarelau Cefndu, ceir Glynrhonwy a Dinorwig. Cloddir ychydig fwn haearn o ochr y Foel.

Cafodd Owen Williams olwg ar y Garneddwen pan ydoedd efe oddeutu deuddeg oed. Yr ydoedd yn ei dŷb ef oddeutu 500 o dunelli, a chynwysai gerryg o wahanol faintioli. Casglodd y gawres y cerryg hyn yn ei ffedog yng Nghwmdwythach. Wrth ddod dros ochr ogleddol y Foel eilian, fe lithrodd ei throed, a rhed dwy ffrydlif o ddwfr yn ol ei dau sawdl. A Gafl y Widdan y gelwir y lle hyd heddyw. Ei meddwl ydoedd gwneud pont dros y Foeldon o Arfon i Fon, ond methu a wnaeth yn ei hamcan, yn gymaint a darfod i linyn ei barclod dorri, ac i'r llwyth ddisgyn yn y fan yma, Ond os methu gan y widdan yn ei hamcan hi, llwyddodd John Jones y ffermwr i wneud cloddiau defnyddiol allan o'r garnedd.

Pan oedd Dafydd Thomas yn ieuanc yr oedd agos bawb yn credu mewn ysbrydion, rhith-angladdau, adar corff, canwyllau corff, ac yng ngallu dewiniaid. Y ceiliog yn canu allan o amser, a gweled y falwen ddu gyntaf yn y tymor, os heb fod ar dir glas,