yddoedd cyn y diwygiad yr oeddid wedi newid trefn y moddion, drwy roddi oedfa'r capel yn yr hwyr yn lle am un ar y gloch. Daeth oedfa un i'r Tylyrni. Rhowd y Tylymni dan nawdd y gyfraith, drwy ei recordio. Bu moddion rheolaidd yno hyd nes cael capel yn y gymdogaeth. Ychydig flynyddoedd cyn y diwygiad, hefyd, y bu farw R. Roberts y Clogwyn, a dewiswyd John Jones i'r swydd yn ei le. Bu ef yn offeryn i godi'r canu. Ni bu neb yn meddu'r dalent honno yma yn flaenorol. Bu'n dechreu'r canu hyd nes y lluddiwyd ef gan henaint.
"Cafwyd rhagarwyddion o'r diwygiad fisoedd cyn i ddim neilltuol dorri allan. [Dywed Carneddog y byddai rhai o'r hen bobl cyn toriad y diwygiad yn breuddwydio yn rhyfedd, ac yn adrodd eu breuddwydion wrth eraill. Cyn bo hir cafwyd y dehongliad. Edrydd ar ol Ellis Jones (y blaenor ym Moriah gynt), yr hyn a glywodd efe gan ei dad a'i fam. Gwelai William Williams Cwmcloch ei hun mewn breuddwyd yn ceisio ymwthio drwy dwll mewn mur trwchus. Methodd ganddo yn lân a myned drwodd, yna fe dynnodd ei ddillad oddi am dano, ac a aeth drwodd yn noeth luman, a gwelai lu yn dod ar ei ol drwy'r un twll. Pan dorrodd y diwygiad allan, y cyntaf i'r seiat oedd William Williams. Adroddir, hefyd, o ysgrifau William Davies, y "mwnwr llengarol o Feddgelert," am Rhisiart Wmffre yn breuddwydio ei fod yn gweled ei hunan yn myned drwy level newydd, nad oedd neb erioed wedi ei gweithio o'r blaen. Wedi cyrraedd drwyddi ac edrych yn ol, fe welai liaws mawr yn ei ddilyn. "Adroddodd y breuddwyd i'w gydweithwyr yn y fwnfa. Y farn gyffredin ydoedd y tarawai Rhisiart Wmffre wrth wythïen gyfoethog o gopr; ond tybiai eraill mai rhyw anffawd oedd i'w gyfarfod ef yn y gwaith. Ymhen ychydig amser yr oedd Richard William Bryn engan yn pregethu yn Hafod y llan. Fe ddychwelwyd Rhisiart Wmffre, ac fel hynny y dehonglwyd ei freuddwyd. Cafodd well ffawd na phe cawsai holl gopr y Wyddfa i gyd. Yr oedd yn flaenffrwyth y diwygiad. Byddai'r hen bobl yn son llawer am y breuddwydion rhyfedd hyn."] Byddai'r seiadau yn newydd iddynt yn anad un moddion. Byddai llestri rhai yn codi i nofio rai prydiau, yn enwedig yr hen chwiorydd. Dywedai'r naill wrth y llall, 'Fe ddaw diwygiad.' Yr oedd yr arwyddion hyn wedi dechre yn gynnar yn 1817. Yn nechreu'r haf y daeth y tri i'r seiat. Nos Saboth ym mis Awst yr oedd Richard Williams Brynengan yn Hafod y llan, pryd y torrodd y