diwygiad. [Yr oedd y diwygiad eisoes wedi torri allan ar ffurf amlwg yn nechreu'r flwyddyn hon yn Nant, Lleyn. Bu'r hanes hwnnw yn symbyliad i'r diwygiad yma (Hanes Diwygiadau, Henry Hughes, t. 253-7). Y mae wedi ei ddweyd yn fynych fod John Elias yn Nhremadog y Sul yr oedd Richard Williams yn Havod y llan, ac i gorff y gynulleidfa fyned yno, saith milltir o ffordd. Dywed Mr. Henry Hughes na fu John Elias yno y flwyddyn honno ond ar Sul olaf Tachwedd, ac mai Robert Sion Huw, Llithfaen y pryd hwnnw, oedd yn pregethu yn y Tylyrni yr un adeg. Ac er i nifer gychwyn i wrando ar John Elias, eto ddarfod iddynt droi yn ol yn y man ar air hen wraig, sef fod Robert Sion Huw mor wirioneddol was i Grist a John Elias. Cafodd Robert Sion Huw arddeliad mawr, tra'r oedd oedfa John Elias yn galed iawn. Mae gan Mr. Hughes dystiolaeth Dr. Owen Thomas i hyn, ac eiddo John Jones, Tŷ capel Peniel (t. 259-60). Mae distawrwydd Gruffydd Prisiart ynghylch oedfa John Elias yn ei gadarnhau. Cymharer disgrifiad Robert Ellis Ysgoldy o oedfa Richard Williams (Cofiant, t. 227). Ioan vi. 44, "Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i'r Tad . . . . ei dynnu ef," oedd y testyn, ebe John Jones. A dywed ddarfod i lawer fyned o'r oedfa heb ymddiddan a'i gilydd yr holl ffordd adref gan syndod.] Ar ddechreu'r moddion nid oedd dim neilltuol mewn arddeliad yn y golwg, ond fel yr oeddid yn ymlwybro ymlaen yr oedd y nerthoedd yn dechre cerdded, a chyn y diwedd torrodd ac aeth yn llefain cryf a dagrau, rhai o'r newydd a rhai mewn cysylltiad â'r achos o'r blaen. Tarawyd pawb â syndod. Richard Williams ydoedd y distadlaf a'r diystyrraf o'r gwŷr a ddeuai atom i gynnyg pregethu; ni chae gan y byd un amser ond llysenwau. Ond dyma'r hwn a arddelodd yr Ysbryd Glan. Bu'r tro yn foddion i godi Richard Williams yn ein hardaloedd tra bu. Wedi toriad allan y diwygiad cerddodd ymlaen yn rymus drwy'r nant. Ar y cyntaf yr oedd rhyw ddylanwad yn disgyn ar rai heb fod mewn moddion. Mae'n ffaith i ddwy dorri allan i waeddi yn y fuches, ac eraill yn eu tai, pryd na byddai moddion cyhoeddus. Fel, mewn ychydig wythnosau yr oedd wedi cerdded yr holl gymdogaeth. Ymhen ychydig wythnosau dechreuodd amryw dorri ymlaen i ymuno â'r achos, a pharhausant. Ymhen y mis neu bum wythnos yr oedd degau wedi dod i'r seiat yn y pentref, gan nad oedd seiat ond yno. Ond er yr holl gynnwrf oedd yng Ngwynant, nid oedd yr argoel lleiaf fod dim neilltuol yn cyffwrdd â neb yn un parth arall o'r plwyf, ond yn unig fod mwy o gyrchu
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/142
Gwirwyd y dudalen hon