bechgyn. Yn ol Robert Ellis Ysgoldy, yn ei adgofion am ddiwygiad Beddgelert (Cofiant, t. 223), Richard Roberts Caergors oedd yr holwyddorwr a rybuddiai'r bobl ieuainc o flaen ffair Gwyl y Grog, pryd y teimlwyd y diwygiad yn y pentref. Ar ganol y cynghori cerddodd ias o deimlad drwy'r lle. Y mae'r cynghorwr yn ymddeffro, ei bwnc yn ymeangu a'i ddawn yn ymagor. Daeth ar draws y llinell honno,—"Mae'r afael sicraf fry." El Robert Ellis ymlaen: "Ac â'i ddawn ystwyth a'i deimlad gwresog, chwareuai ar y gair 'fry.' 'Oddi fry y daw popeth o werth ini—oddi fry y daw'r goleuni, y gwres a'r glaw—oddi fry y daw bendithion iechydwriaeth i'r ddaear—o'r uchelder y mae Duw yn tywallt ei Ysbryd. Dyma obaith i ddynion caled Beddgelert. Os ydyw'n dywyll yma, mae'n oleu fry; os yn wan yma, mae'n gadarn fry.' Gyda'i eiriau, yr oedd rhywbeth mor ddwys, mor rymus, yn disgyn ar yr holl ysgol, yn hen ac ieuainc, fel y gwelid pawb yn torri allan i wylo. Mor rymus oedd y dylanwad, nes yr oedd y plant mewn dychryn rhedai un bachgen bychan at ei dad, a llefai, 'Nhad anwyl, dyma ddydd y farn wedi dod.' Wylo dwys a distaw oedd yn llenwi'r lle."
Daeth William Roberts a Gruffydd Prisiart yma o Fethania, y ddau yn swyddogion yno cyn eu galw yma. Yr oedd William Roberts yn frawd i John Roberts Waterloo, ac yn ewythr i Mr. Pyrs Roberts, frawd ei dad. Dywed Mr. Pyrs Roberts y bu William Roberts yn arweinydd amlwg yn Methania. Dechreuodd weithio gyda'r achos yn y pentref, ond nid llawer o gyfle a gafodd, gan fod dynion cryfion yma eisoes. Yn ol Mr. Pyrs Roberts, yr oedd yn ddyn galluocach na'i frawd, John Roberts, ac yn meddu ar ddawn i arwain yng nghyfarfodydd yr eglwys. Yr oedd yn areithiwr dylanwadol dros ben ar ddirwest, ac, yng ngair Mr. Pyrs Roberts, yn cario y plwyf o'i flaen. Eithr fe ddyrysodd yn ei amgylchiadau, tarfodd ei ysbryd, a llesghaodd ar y ffordd.
Am ddwy flynedd y bu Gruffydd Prisiart yn gwasanaethu'r swydd ym Methania. Gwnaeth Gruffydd Prisiart yr hyn yr esgeulusodd llawer ei wneud, sef cofnodi'r pethau rhyfedd a welsent ac a glywsent ynglyn â chodiad Methodistiaeth. Fe deimlir yn yr hyn a gafwyd gan Gruffydd Prisiart, ei fod ef yn ddyn o feddwl diwylliedig a barn gydbwys. Gwelir fod ei sylw ar fanylion: gŵyr werth y cyffyrddiad manylaidd. Cymharer, er enghraifft, ei