Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/162

Gwirwyd y dudalen hon

ddisgrifiad ef o arferion yr oes o'r blaen âg eiddo William Williams Llandegai, awdwr Prynhawngwaith y Cymry, yn ei lyfr Seisnig ar fynyddoedd yr Eryri. Heblaw manylder disgrifiad o arferion neu ddigwyddiadau, fe geir ganddo, hefyd, rai enghreifftiau o'r gallu i gyfleu cymeriad gerbron. Y mae ei gymhariaeth o'r pedwar brawd yn nodedig o dda, ac y mae'r portread o Hywel Gruffydd yn arbennig o werthfawr. Y mae ei gof am amgylchiadau a dywediadau, a'r mynegiadau o deimlad neu dymer, yn y dull a thôn y llais, yn ymddangos yn afaelgar dros ben. Diau fod ei gof yn y pethau hyn wedi ei awchlymu yn fawr gan y dyddordeb a deimlai yn holl helynt yr ardal, yn enwedig ei helynt grefyddol, ac yn fwy na dim, yn niwygiad mawr 1818, y profodd efe ei hun ohono, yn fachgen 18 oed. Ar ol y fath brofiad ag a ddisgrifir ganddo o'r canu yn yr awyr, nid rhyfedd fod holl olygfa'r diwygiad wedi ymagor yn ei ddychymyg mewn rhyw oleu claerwyn, a bod pob cymeriad ac amgylchiad yn sefyll allan arno'i hun i'w olwg o ganol y rhuthriadau teimlad rhamantus. Fel ysgrifennydd, y mae'n ddiffygiol mewn crynoder awchlym; ond gydag arfer gyson, a mwy o sylw ar gynlluniau uchel, fe fuasai wedi ennill yn fawr yn hynny. Y mae Carneddog yn dyfynnu Glaslyn arno o'r Cymru (XXV., rhif 146): "Yr oedd yn hysbys yn niwynyddiaeth y Methodistiaid, ac wedi darllen llawer ar lyfrau pynciol yr amseroedd, megys ysgrifeniadau Richard Jones o'r Wern a Richard Williams [Pregethwr a'r Gwrandawr], ac yr oedd mewn cydymdeimlad â llenyddiaeth drwy'r hen Wladgarwr, a misolion y cyfnod hwnnw. Pe wedi cael gwell manteision, a mwy o ryddhad oddiwrth helbulon bywyd, gallasai, o ran ei alluoedd, fod wedi cyfoethogi llenyddiaeth Cymru. Yr oedd y dylanwad dyrchafedig a feddai Gruffydd Prisiart i'w briodoli i'r awyrgylch ysbrydol yr oedd yn byw ynddi. Yr oedd ei gartref yn gysegr i Dduw, ac yr oedd wedi ei fendithio âg un o'r gwragedd mwyaf doeth a duwiol a wisgodd fodrwy erioed." Nid yw efe ei hun yn gadael i'w gysgod ddisgyn ar yr hanes ond gyn lleied ag y bo modd. Yn ol Mr. Pyrs Roberts, fe wasanaethodd swydd diacon yn dda, ac yr oedd llawer o hynodrwydd yn perthyn iddo. Yr oedd yn un medrus iawn i gadw seiat, a phan fyddai'r cyfarfod hwnnw yn bygwth myned yn swrth, gwyddai ef yn dda at bwy o'r saint i droi, a gallai eu tynnu allan. bob amser. Gallai darro ar wythïen gyfoethog a chael seiat wlithog a hwylus, pan fyddai weithiau wedi bygwth troi fel arall. Clywodd Mr. Pyrs Roberts hanesyn am dano yn ymddiddan â hen chwaer