dduwiol iawn a ffyddlon dros ben. Yr oedd yr hen chwaer yn byw o 3 i 4 milltir o ffordd o'r capel, mewn bwthyn unig ei hunan, fwy na hanner y ffordd i Flaen Nantmor, mewn lle o'r enw Penrhyn gwartheg, ar yr ochr arall i'r ffordd i Lyn y Dinas. Yr oedd ei llwybr i'r pentref yn anhygyrch a garw, a phont garreg i'w chroesi ym mhen isaf y llyn, ac nid gorchwyl hawdd a hollol ddiberygl bob amser fyddai ei chroesi. Ond nid oedd dim lesteiriai'r hen sant hon i'r seiat a'r cyfarfod gweddi ond afiechyd. Trwy deg a gwlaw gwelid hi, er yn byw ymhellach na neb arall, yn ymlwybro i'w hoff gyrchfan. Un noswaith yr oedd y seiat yn cychwyn dipyn yn aniben, a Gruffydd Prisiart yn teimlo hynny. Ond gwelai fod yr hen chwaer o Benrhyn gwartheg ganddo i syrthio'n ol arni am air o brofiad, ac ymhen ennyd anelodd am dani. 'Be' sy' gen ti heno, Siani,' meddai. 'Nid oes dim heno, Gruffydd Prisiart,' meddai hithau. Ond gwyddai Gruffydd Prisiart o'r goreu y gallai gael rhywbeth yn y fan yma, ond iddo fedru mynd o'i gwmpas yn iawn. Troes i ganmol ei sel a'i ffyddlondeb yn dyfod mor bell i'r capel ar noswaith dywyll a drycinog, a thrwy gryn anhawsterau, 'nes codi cywilydd wyneb ar lawer ohonom,'—meddai. Yn y man, gofynnodd iddi, 'Siani, yn y lle pell ac unig acw, fyddi di'n darllen dipyn weithiau?' 'O byddaf, Gruffydd,' meddai hithau, 'y mae'n rhaid imi ddarllen.' 'A fyddi di'n gweddïo weithiau?' 'O byddaf, Gruffydd, y mae'n rhaid imi weddïo: fedra'i ddim cadw a dal ymlaen heb ddarllen a gweddïo: fedra'i ddim byw heb weddio —y mae'n rhaid imi weddio.' Dyma ddigon i Gruffydd Prisiart. Daliodd yn effeithiol iawn ar y gair rhaid, a gwnaeth ddeunydd seiat ardderchog o hono. Ei bwnc oedd dangos mor ddiwerth yw crefydd heb raid ynddi, a siaradai yn ofnadwy. Ac wrth orffen traethu, troai at Siani drachefn, 'Wel, Siani, wyddosti beth? ni rown bin o'm llawes am grefydd na bydd rhaid ynddi hi.' Gwresogodd y seiat gyda hyna, a siaradodd rhyw hanner dwsin, a chafwyd seiat i'w chofio. Yr oedd Gruffydd Prisiart yn holwr da ar ddiwedd ysgol. Teimlai fawr sel dros y Cyfarfod Ysgolion. Ceid math o Gyfarfod Ysgol weithiau y pryd hwnnw ar ddiwrnod gwaith. Fel rhyw enghraifft o'i ddull a'i ffordd gellid nodi un amgylchiad. Yr oedd mater wedi ei nodi i'r ysgol chwilio arno, a'r Parch. John Owen Ty'nllwyn yn holwr. Yr oedd rhif yr ysgol y noswaith honno yn 160 neu 170. Holid pob dosbarth arno'i hun yn yr adnod oedd wedi ei phennu, a dosbarth Gruffydd Prisiart oedd y cyntaf. Ymddanghosai'r athro yn bur ddidaro, y dosbarth yn
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/163
Gwirwyd y dudalen hon