gâr Hywel Gruffydd, yn wŷr o athrylith ddiamheuol. Ond gan nad oedd ynddynt ddim awydd i fod yn gyhoeddus, ac ennill clod dynion, aethant drwy'r byd heb iddo braidd wybod am danynt. Mae blodau mor brydferth yn yr anialwch allan o olwg dyn ag sy'n ngardd y pendefig, ac y mae'r perl mor bur ac mor ddisglair yn nyfnder y môr a phan yn addurno coron yr ymerawdwr. Dioddefodd afiechyd maith a phoenus, a'r tro diweddaf yr wyf yn ei gofio yn y seiat yn adrodd ei brofiad, cododd ei law at ei ben dolurus, ac aeth dros y pennill hwn gyda rhyw deimlad dwys-dreiddiol;
'Rwy'n tybio pe bae nhraed yn rhydd
O'r blin gaethiwed hyn,
Na wnawn ond canu—
Mae arnaf hiraeth am hen gyfeillion." Ychwanega Glaslyn mewn nodyn ar wahân: "Methais ymatal rhag wylo wrth ysgrifennu y darn pennill a adroddodd yn y seiat." Aeth Gruffydd Prisiart am dro i Borthmadoc er lles ei iechyd, at ei fab Mr. William Pritchard, ac yno y bu farw, Gorffennaf 4, 1868, yn 69 oed.
Y ddau a ddewiswyd yn gyntaf fel blaenoriaid ar ol marw John Jones oedd John Roberts Waterloo a Robert Jones Siop y Gornel, mab i John Jones. Y flwyddyn a nodir i John Roberts yn Ystadegau 1893 ydyw 1849. Eithr yn 1853 y bu John Jones farw. Yr un pryd, neu ryw gymaint yn ddiweddarach, y dewiswyd William Jones Cae'r moch. Symudodd ef i Glynnog. Yr oedd Robert Jones, yn ol Mr. Pyrs Roberts, yn ddyn gwerthfawr, cryf o feddwl a chymeriad. Yr oedd yn ddirwestwr pybyr mewn adeg bwysig; ac fel y dur i'w argyhoeddiadau ym mhob pwnc. Gwnaeth waith mawr a charai weithio. Anaml iawn y gwelid ef yn absenol o'r seiat neu gyfarfod gweddi. Y mae Carneddog yn dyfynnu Glaslyn arno o'r Cymru (XXV., rhif 146): "Un o golofnau yr ysgol Sabothol ym Meddgelert. Arolygwr a fu efe am ran o'i oes, a disgynnodd y swydd iddo fel treftadaeth ar ol ei dad. Efe oedd y mwyaf llwyddiannus gyda'r gorchwyl o holi'r plant. Wedi cael ateb llawn i'w gwestiwn, ymestynnai ei gorff tal, ac ymdaenai gwên ddisglair dros ei wyneb crwn. Yna, ail ofynnai yr un cwestiwn, a cheid taran o atebiad. 'Dywedwch eto, fy mhlant i,' ac yna taran drachefn, fel y byddai'r plant a'r ysgol mewn hwyl hyfryd. yn y diwedd. Yr oedd yn ddyn goleuedig a gwir grefyddol, ac yn arweinydd yr eglwys a'r ysgol. Nid oedd ganddo lawer o lyfrau,