Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

teulu wedi bod yn meddu ar y cyfielyb: sef eu bod yn ymdeimlo â lliaws o bethau cyn digwydd ohonynt, nes gallu yn rhyw fodd eu rhagfynegu, er nad, fe ddichon, gyda holl fanylder Arabella o Ddinbych. Heblaw dawn natur, tynnodd Griffith Ellis gydnabyddiaeth yn ei ieuenctid âg amryw wŷr cyfarwydd o'r cyfnod hwnnw. A thrwy'r cwbl, llwynog cyfrwys, henffel ydoedd ef ei hun. Un lofft hir oedd i'r Cilhaul. Pan fyddai dieithryn yn y tŷ yn adrodd ei helynt, byddai Griffith Ellis ond odid yn y llofft yn gwrando. Yn y man, deuai i mewn i'r gegin, gan sychu chwys ei dalcen â'i law. "O!" ebai fe, yn yr olwg ar y dieithryn, "yr ydych yn dod o'r fan a'r fan. Yr oeddwn yn eich disgwyl ers tridiau!" Yr oedd hanner y frwydr wedi ei hennill eisoes, fynychaf. Edrydd Mr. Evan Jones y Garn stori a glywodd yn blentyn gan Griffith Ellis ei hun. Galwodd gwr o sir Ddinbych unwaith yn y Cilhaul. Gwraig y plas oedd wedi colli ei modrwy briodas. "Hysbyswch i bawb fy mod yn dod ar y diwrnod a'r diwrnod," ebe'r dewin. Griffith Ellis yn cyrraedd ar y diwrnod hwnnw, ac yn cerdded yn hamddenol o amgylch y plas. Y forwyn, mewn modd dirgelaidd, yn rhoi y fodrwy yn ei law. "Na ddwedwch wrth neb," ebe fe, "ac ni ddwedaf innau." Griffith Ellis yn gorchymyn paratoi rhyw bedwar neu bamp o bytiau toes, ac, wedi cael cyfle, yn eu taflu i hwyaden â marciau neilltuol ar ei hesgyll. Yna yn gorchymyn cau'r hwyaden honno arni ei hun. Y bore nesaf, ebe'r dewin wrth wraig y plas, "Nis medraf wneud dim o'r helynt yma yn amgen na bod y chwiaden a'r marciau duon yna arni wedi llyncu'r fodrwy. 'Does dim i'w wneud ond i hagor hi, ac fe'm siomir yn fawr os nad yw'r fodrwy yn ei bol." A gwir y dyfalodd! Eithr hen stori ddewinol ydyw hon wedi'r cwbl. Clywodd Griffith Ellis y chwedl, yn ddiau, ac fe ddichon iddo gael cyfle i actio'r cyffelyb ystryw ei hun. Edrydd Mr. Evan Jones stori arall ar ei ol. Archwyd iddo ymweled â gwraig orweddiog ym Mon. Gorchmynodd ddwyn i'r stafell bedair o gyllill wedi eu glanhau yn loewon, a chynfas wen lân. A chyda'r pedair cyllell wedi eu dodi yn ddestlus ar y gynfas wen yngolwg y wraig, ebe Griffith Ellis, mewn ton gwynfanllyd, a chan edrych at i lawr ar y wraig yn ei gwely, "Gresyn! gresyn! fod yn rhaid i hagor hi." Ar hynny y neidiodd y wraig allan o'i gwely yn holliach! Unwaith, fe ddaeth gwraig o Fon ato gyda chŵyn ynghylch ei mab. Yr ydoedd hwnnw wedi troi ei gefn ar ei hen gariad, a dilyn un newydd. Cyfarfu â'r hen, a bygythiodd honno ei witsio, fel na lyncai damaid fyth ond hynny.