Misol, yr oedd ei ffyddlondeb, ei dduwioldeb a'i barodrwydd i'r nefoedd yn amlwg. Dywed Glaslyn ei fod yn llawn ysmaldod diniwed ar hyd ei oes,—"o lawn digrifwch a'i lond o grefydd." Bu'n offeryn, ebe Glaslyn, i ledaenu llawer ar Esboniad James. Hughes yn y plwyf, yr esboniad cyntaf a gafodd ddim derbyniad yma. Ebe Carneddog: "Nid oedd neb mwy boneddigaidd, caredig a phert, ac yr oedd ym mhob cylch yn wr o ymddiried, yn bwyllog a gochelgar. Yr oedd haelfrydigrwydd yn llinell amlwg yn ei gymeriad. Bu farw Tachwedd 18, 1886, yn 60 mlwydd oed, ac wedi bod yn flaenor am 26 mlynedd."
Yn ei swydd ni cheid un sant—mor ddifai,
Yn y glyn canai Cristion Glan Gwynant.
Os gwâg, o us a gwegi—yw y byd,
Hwn o bawb mewn gweddi,
Fu o ddyled, yn medi
Gwenith nef, ganwaith i ni.
Suddai i bwnc—Rhys oedd Baul—o ddoniau
Diddanus, myfyriol,
Geiriau da y gwr duwiol
Drwy'u had a fedir o'i ol.—(Carneddog.)
Dewiswyd Pyrs Roberts a Richard Morris Cwmcloch yn flaenoriaid yn 1875. Symudodd Richard Morris i gymdogaeth Llanrwst, ac yr oedd yn flaenor yng nghapel Salem y tuallan i'r dref. Gwr cryf, agored, ac yn ymddangos fymryn yn fyrbwyll. Yn 1880 fe ddewiswyd William Pritchard Tŷ Emrys, Robert Roberts Meirion Terrace a George Thomas yr ysgolfeistr. Anafwyd Robert Roberts yn y chwarel yn 1882, a throes hynny yn angeuol iddo. Dywed Carneddog ei fod yn wr darllengar a gwybodus, yn siaradwr da, ac yn meddu ar brofiadau melus. Yn flaenllaw gyda'r ysgol Sul a'r Cyfarfod Ysgolion.
Y gwas da a ffyddlon oedd fawr mewn duwioldeb,
Oedd weddaidd ei rodiad a disglair ei foes,
Ei fuchedd oedd un i'w harddelwi mewn purdeb,—
Grasusau y nef a addurnodd ei oes.—(Carneddog.)
Yn ol Carneddog, yr oedd William Pritchard yn wr boneddigaidd, tawel a heddychol. Heb feddu ar allu meddwl cryf, na thalent. neilltuol fel siaradwr cyhoeddus; ond yn meddu ar farn a doethineb. Yn chwyrn yn erbyn chwareuaethau ac ysgafnder, ac yn caru cynnal y ddisgyblaeth. Yn ffyddlon, yn hael ei gyfraniadau, yn ddefnyddiol gyda'r ysgol, yn dangnefeddwr. Bu farw Mai 26,