Arweiniad Driver i'r Hen Destament deirgwaith drosodd. A darllennai'n ofalus. Yr oedd yn hynotach fyth yn ei waith yn ysgrifennu ei feddyliau i lawr. Dywed Carneddog yr ysgrifennodd lond pentwr anferth o fân gopïau, ac yr ysgribliai ei fyfyrdodau a'i fân draethodau ar gefn papur te a siwgr, ar gefn biliau, amlenni llythyrau, ac ar bob lliw o bapur, gwyn, glas a lliwiau eraill. "Ceir ganddo fath o esboniadau byrion ar y mwyafrif o'r Efengylau a'r Epistolau, cannoedd lawer o fân draethodau ar bob math o destynau Beiblaidd, a rhai gwleidyddol, ynghyda phregethau dirif." Dywed golygydd y Llusern ei fod yn amheus a oedd un gweinidog yn Arfon â'i feddwl wedi ei gyfoethogi fwy â gwybodaeth ddiwinyddol iachus, a'i fod yn amheus a oedd cymaint ag un yn dod yn agos ato. Yr oedd yn ddiwyd gyda dosbarthiadau Beiblaidd. Yn ymwelydd ffyddlon â'r claf. Yr oedd rhyw duedd neilltuedig ynddo. Cerddai hyd y gallai i'w gyhoeddiadau, a defnyddiai'r amser hwnnw i fyfyrio a myned dros ei bregethau. Ni fynnai bregethu mewn Cyfarfod Misol er cynnyg iddo, a gwrthododd lywyddiaeth y Cyfarfod Misol. Gwell ganddo oedd capelau bach na rhai mawr, a'r rhai anghysbell a diarffordd o'r rheiny a hoffai fwyaf. Dyn gwlad ydoedd, ac nid dyn tref. Er hynny, yn wr serchog gyda'i gyfeillion, ac yn un a fawr hoffid ganddynt. Tystiolaeth John William y tŷ capel am dano ydoedd, ei fod yn ddyn i'w air, yn un na thorrai mo'i gyhoeddiad er dim; y cawsai rai seiadau anarferol; ei fod yn fawr yn y cyfarfod darllen. Sylwa Carneddog y perchid ef gan y rhai mwyaf anystyriol, ac yr ofnai rhai ei gyfarfod ar y ffordd mewn lle unig, a hynny gan rym ei gymeriad fel dyn Duw. Pregethwr pwnc ydoedd, ac ymdriniai â'i bwnc mewn dull difrif. Heb odidowgrwydd ymadrodd, yr oedd ei bregethau yn llawn Efengyl, ac yn cael eu cymhwyso gyda medr y gwr difrifol.
William Ellis I cael molawd—ni chwennych;
Hynny gynt fae'n anffawd!
Un unig, bell anianawd
I ddenu bri oedd ein brawd,
William Ellis, dewisydd—llyfrau oedd—
Didwyll frwd efrydydd:
Ti'r llanerch fud, darllennydd
Na fynnai saib o'th fewn sydd.
William Ellis! welai miloedd—ei wlad
Mo'i ledawl alluoedd;
Un dorrai i'r dyfnderoedd
Dwyfol â nerth diflin oedd.