Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/175

Gwirwyd y dudalen hon

addfed yn nosbarth Gruffydd Prisiart. Os camymddygid, fe afaelai Pyrs Ifan ym môn braich y troseddwr, gan ei gwasgu nes y tybid fod yr esgyrn yn clecian. [Dywedai William Wmffre wrth Carneddog y byddai Gruffydd Prisiart fel athro yn talu llawer o sylw i esboniadau, yr olrheiniai ramadeg y geiriau a'r gwreiddeiriau, ac y rhoe fwy o oleu ar adnod wrth ei darllen nag ambell un mewn hanner awr o draethu. Cymru XIX., 108, t. 28]. Robert Jones a fu'n arolygwr yr ysgol am flynyddoedd. Fe geryddai heb ddeilen ar ei dafod. Yn hoff o'r plant—"Fy mhlant bach, anwyl i!" Derbyniodd John Roberts Waterloo ei briodoledd amlycaf oddiwrth ei fam, Sian Ifan, canys dynes wrol, awdurdodol ydoedd hi. Yr oedd ef yn fwy o hanesydd ysgrythyrol nac o ddiwinydd. Yn arweinydd ym mhob man, efe a arweiniai y blaid oedd am Fwrdd Ysgol. Y pryd hwnnw fe ffyrnigodd un o amaethwyr pennaf y plwyf wrtho, "Mi sathra'i ar dy denyn di, machgen i," ebe'r amaethwr. "Camp iti, ni adawa'i monofo lusgo " Dosbarth lliosog o ferched oedd gan Rhys Jones. Yr oedd yn fedrus mewn dadl. Ei weithdy weithiau yn fath o ddosbarth, yn enwedig pan fyddai E. R. Evans y Dinas yn galw. Mwynhae Rhys Jones y dadleu yno yn fawr. John Jones Stryd yr eglwys a'i ddosbarth oedd glymedig yn ei gilydd fel yr iorwg. Brodor o Ddolyddelen, ac yn perthyn i deulu Dolyddelen. Efe oedd arweinydd hen gôr enwog Beddgelert. Ni feddai Ifan Dinas (Evan R. Evans) ddawn i gyfrannu gwybodaeth, er mai efe, feallai, oedd y mwyaf ei wybodaeth yn yr ardal. Yr oedd ganddo gasgl da o lyfrau, a gwnaeth ddeunydd da ohonynt. Llefarai buchedd William Pritchard Tŷ Emrys gyfrolau. Robert William Frondeg oedd un o ragorolion y gymdogaeth. Ymboenodd gyda thwrr o fechgyn direidus, a llwyddodd yn rhyfedd i'w dwyn dan drefn a dosbarth.

Ceid yn y seiat ar nos Sadwrn, unwaith yn y flwyddyn bob un, John Jones Talsarn a Dafydd Jones. Y mae gan Mr. Pyrs Roberts atgof am y naill a'r llall. "Pwy sydd yma i ddweyd gair?" ebe Dafydd Jones. "Elin Williams y Gwindy, beth sy ganddoch chwi?" "Gweld fy hun yn amherffaith iawn: gweld rhyw bwyth ar ol o hyd, a hynny er gochel hynny fedra'i rhag anghofio'r Brenin Mawr." "Mae'n dda gen i eich clywed yn dweyd," meddai Dafydd Jones, "Cofiwch hyn: fedrwchi ddim disgwyl bod yn berffaith, na bydd rhyw bwyth ar ol o hyd. Ond chwi gewch deimlo rhyw ddiwmod fod y pwyth olaf yn y wisg, ac â'r wisg yn gyflawn am