Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/176

Gwirwyd y dudalen hon

danoch y cewch fynd i mewn i'wydd y Brenin." Yr oedd Elin William yn nain i Robert Griffith Dinbych, diweddar olygydd y Faner. Byddai John Jones yn dweyd pethau a fyddai'n synnu pawb. Ac yr oedd yn gallu tynnu eraill i ddweyd hefyd. Fe draethai un tro am drueni yr anuwiol mewn dull oedd yn synnu pawb. "Os ei di i uffern wedi mwynhau cymaint o fendithion y ddaear, y funud gyntaf yr ei di yno ti dorri dy galon am dragwyddoldeb. Pan weli furiau yr hen garchar wedi eu duo gan fwg poenau y damnedigion, ti dorri dy galon am dragwyddoldeb." Y mae gan y Parch. G. Tecwyn Parry atgof am Ddafydd Jones yn y seiat nos Sadwrn. Dyma fel y dywed (gan grynhoi): "'Rwyf yn cofio'r munud yma un tro rhyfedd iawn yn y seiat. 'Roedd Dafydd Jones yn agor y seiat, a phawb ohonom yn glust i gyd tra'r ydoedd yn siarad. Y nefoedd oedd y testyn; a rhoddai yntau'r ffrwyn i'w awen wrth ddisgrifio. 'Ti gei fynd am dro ochr yn ochr a'r angel, a bydd dy edyn mor gryfion a'r eiddo yntau. A thi gei weled gydag ef ryfeddodau diderfyn yr ymerodraeth fawr. Y mae yn Natur o'n cwmpas lawer o brydferthwch; ond y mae'r cyfan yn gwywo ymaith yn ymyl gogoniant y nefoedd, canys ynddi hi y mae'n Duw ni ar ei oreu.' Wedi'n codi oddiar y ddaear o ran ein meddyliau, fe eisteddodd i lawr. Cyn bron i Ddafydd Jones eistedd i lawr yn yr hen gadair fawr, yr oedd Gruffydd Prisiart ar ei draed, ac yn siarad yn arafaidd a phwyllog. "Prin yr wyf yn credu fod geiriau Mr. Jones yn wirioneddau y gellir ymddiried ynddynt. Ehediadau barddonol ydynt, ffrwyth dychymyg ei awen fywiog, ac nid gwirioneddau sefydlog. Y mae arnom ni angen rhywbeth amgen na dychmygion yn sail ein gobeithion, ac y mae'n beryglus i ni adeiladu ar ddim ond sy wirionedd.' Yr oedd y seraff adeiniog yn y gadair fawr yn gwingo yn anesmwyth. Ei gynhyrfu ef oedd yr amcan. Cyn i Gruffydd Prisiart eistedd yr oedd Mr. Jones ar ei draed, a gwedd angylaidd arno, a'r gair cyntaf a ddywedodd oedd, 'Na, na, Gruffydd Prisiart, nid dychmygion oedd y syniadau a draethais am y nefoedd, ond gwirioneddau—realities—oedd y cyfan; ac nid oedd yr hyn a draethais ond eco gwanaidd o'r hyn ydynt mewn gwirionedd.' Ac er mor ardderchog ydoedd o'r blaen, yr oedd yn llawer mwy felly pan ail-ddechreuodd yn awr. Yr oedd dagrau Gruffydd Prisiart yn llifo, ac ymysgydwai fel corsen yn y gwynt. Yr oedd ef wedi cyrraedd ei amcan, a ni ac yntau wedi cael trêt nad anghofiwn yn y fuchedd hon. Bu'm yn ymddiddan âg ef am y tro wedi hynny, ac wylai wrth ei atgofio; a dywedai