Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/178

Gwirwyd y dudalen hon

BETHANIA, NANT GWYNANT[1]

Y mae gwreiddiau'r hanes yn yr ardal hon wedi eu holrhain yn hanes eglwys y pentref. Y cyntaf o'r ardal y gwyddis ei fod wedi ymuno â'r Methodistiaid oedd Rhys Williams Hafod y llan, yr hyn a ddigwyddodd pan ymgynhullai'r eglwys yn Nhy'n y coed, sef oddeutu 1788-90. Cymerodd ran flaenllaw yn adeiladu capel 1794. Yr oedd yn wr o flaen ei oes. Cadwai gyfrifon manwl, yn enwedig ynglyn â'r achos ym Methania. O gymeriad di droi yn ol. Yn gydymdeimladol â'r tlawd. Nid oedd cyflog llafurwr yn nechreu'r ganrif ddiweddaf ond 4½c. y dydd. Rhoes yntau waith i nifer i arloesi'r cae newydd, gan chwanegu pryd o fwyd at y cyflog, a mawr ganmolid ef am ei haelfrydedd. Bu farw Gorffennaf 3, 1832, yn 77 oed. (Edrycher Pentref). Symudodd William Williams o'r Ffridd i Hafod rhisgl, Nant Gwynant, yn 1800, blaenor ym Meddgelert yntau hefyd er 1799. O dymer led wyllt, fe gymerai ei dramgwyddo gan bethau go fychain weithiau. Collodd ddagrau lawer gwaith o'r herwydd. Bu farw Hydref 15, 1825, yn 67 oed. (Edrycher Pentref). Yr oedd y ddau hyn fel dau gedyn yr achos yn yr ardal hon. Tebygir ddarfod iddynt fod yn foddion i wella moesau yr ardal yn fawr, ac i gael amryw i ymuno â'r eglwys ym Meddgelert. Yr oedd tŷ y naill a'r llall mewn ystyr arbennig yn dŷ yr Arglwydd.

Erbyn 1800, ac ychydig cyn hynny, byddai pregeth yn Hafod llan bob bore Sul. Y mae'n sicr, ebe Mr. Morris Anwyl Jones, nad yw'r adroddiad am John Thomas yn rhoi'r bregeth gyntaf yn yr ardal yn 1810, yng nghorlan y Wenallt, yn gywir, gan fod pregethu yn Hafod y llan fwy na deng mlynedd cyn hynny.

Tua diwedd 1821 neu ddechre 1822 y penderfynwyd adeiladu capel. Cafwyd tir i'r amcan ar stâd Mostyn ar brydles o 60 mlynedd, wedi ei dyddio Rhagfyr, 1825, yn ddilynol i'r adeiladu. Y mae cofnodiad yn aros am dderbyniadau yr eisteddleoedd am dair blynedd, yn dechre gyda Rhagfyr, 1822. Ceir nodiad fel yma: "15 Ionawr, 1824, talais rent y capel, 5s." Y mae ar gael daflenni yn cynnwys enwau'r pregethwyr a'u testynau. Dengys y rhai'n

  1. Ysgrif Mr. Morris Anwyl Jones. Ysgrifau Mr. D. Pritchard Cwmcloch. Taflen cyfrif yr adeiladu, 1822. Nodiadau gan Carneddog.