Dechreuodd yntau waelu a chymeryd i'w wely, ac yn y man nis medrai lyncu gronyn o fara. Wedi clywed ohono'r manylion, ebe'r dewin,—" Y mae o wedi mynd yn rhy bell i mi wneud dim ohono. Y mae o wedi credu gair y ferch, a mynd yn rhy lwyr dan ei dylanwad. Bydd wedi marw cyn pen nos yforu." Ac yn ol y ddarogan y digwyddodd y peth. Mam y bachgen hwnnw a adroddodd yr hanes wrth Mr. Evan Jones. Bu gwraig am ddeng mlynedd mewn iselder meddwl, ar ol ei siomi mewn serch, ond a ddilynodd gyfarwyddid Griffith Ellis, ac a ymsioncodd ac a ymsiriolodd, a bu am ugain mlynedd heb och na gruddfan. Yna fe ail—gydiodd yr hen anhwyl ynddi, a hi a ddaeth i ymofyn â'r dewin drachefn. Yr ydoedd yn wraig barchus yr olwg arni, ac yn holi'r ffordd am y dewin y gwelwyd hi gan Mr. Evan Jones, ac y clywodd efe ei stori. Bu Dafydd Thomas yn ymddiddan â Griffith Ellis yn ei hen ddyddiau ynghylch ei hanes a'i orchestion Soniai am John Jones, Tyddyn Elen, wr cyfarwydd, a dywedai nad oedd mo'i hafal yn y gwledydd fel meddyg dyn ac anifail. Gallai, hefyd, wastrodedd y Tylwyth Teg, canys fe ymddanghosai Griffith Ellis yn cwbl gredu ynddynt, ebe Dafydd Thomas. Feallai hynny; ond gallasai Griffith Ellis, ei fab, gymeryd arno cystal a dim actor a sangodd ar ystyllen. Pa ddelw bynnag, fe draethai Griffith Ellis ei farn am y Tylwyth Teg wrth Ddafydd Thomas, mai rhyw fath ar fodau rhwng dynion ac angylion oeddynt. "Nid oes neb yn gweld monynt yn awr," ebai Dafydd Thomas. "Nagoes," ebai yntau, "ond darllenwch i'r Beibl, chwi gewch weld mai ar ryw adegau neilltuol y byddai rhyw fodau wybrennol yn ymddangos i ddynion ar y ddaear yn yr hen amserau." Yr oedd Griffith Ellis yn gallu gwastrodedd ysbrydion a flinai dai pobl, a chyflawnodd wrhydri yn y ffordd honno, nid yn unig yn y Waenfawr a'r ardaloedd cylchynnol, ond hyd berfeddion Eifionydd ac hyd eithaf cyrrau Mon a Dinbych. Ei swynair wrth wastrodedd ysbrydion, neu mewn achosion dyrys gyda dyn neu anifail ydoedd hwnnw,— Rhad-Duwi-ni, a seinid ganddo megys un gair, ac yn dra chyflym, a hynny drosodd a throsodd. Yr oedd dylanwad cyfareddol yn nheimlad llawer yn ynganiad y swynair hwnnw. Ni ddaeth Griffith Ellis i gysylltiad mor uniongyrchol â hanes crefydd a Simon y swynwr ac Elymas a meibion Scefa, neu hyd yn oed y ddewines o Endor, eithr, fel hwythau, yr oedd efe yn ddrych o angen calon dyn yn ei pherthynas â'r anweledig, ac, fel hwythau, yn ddrych o gyflwr ei oes a'i wlad. Y mae ei hanes ef, a rhai
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/18
Gwirwyd y dudalen hon