Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/185

Gwirwyd y dudalen hon

74. Am y flwyddyn 1854, dengys yr Ystadegau mai £6 oedd y ddyled; fod yn y capel 104 o eisteddleoedd, ac y gosodid y nifer hwnnw; mai 6ch. oedd pris eisteddle am y chwarter; mai £10 8s. Oc. oedd swm y derbyniadau am y seti yn flynyddol; ac mai £8 10s. Oc. oedd swm y casgl at y weinidogaeth.

Yn y flwyddyn 1863 adeiladwyd ysgoldy yn Blaen Nantmor ar stâd Daniel Vawdrey, ar brydles o 40 mlynedd. Yr amcan oedd cynnal ysgol Sul a chael pregeth achlysurol. Y draul, oddeutu £60. Yn y cyfnod hwn y dewiswyd i'r swyddogaeth, John Williams Gwastad Agnes (Capel Curig ar ol hynny) a Pyrs Roberts Hafod y llan. Yr oedd John Williams yn un o blant amlwg diwygiad 1859. Yn proffesu cyn hynny, ond y pryd hwnnw yr aeth i'r dwfn. Yn weddiwr cyhoeddus neilltuol. Er hynny, yn dywyll arno weithiau, ac arferai ddweyd y profai y tywyllwch hwnnw yn fendith iddo, gan y gyrrai ef yn fwy i'r dirgel. Cadwai y ddyledswydd deuluaidd ar ddiwrnod cneifio defaid. Gorfu iddo ymadael â Gwastad Agnes yn anisgwyliadwy, ac ni wyddai y diwrnod olaf pwy a ddeuai i brynnu ei eiddo. "I ba le yr ewch eto, John Williams?" gofynnai cymydog. "'Dwn i ar y ddaear," ebai, "ond y mae Efe yn sicr o ofalu am danaf i a'm pac plant." Cynygiwyd fferm iddo yn union deg, a symudodd i Gapel Curig. Mab iddo ydoedd y Parch. W. Curig Williams, Rhosgadfan. Mab i W. Griffith Williams Hafod llan oedd Pyrs Roberts Hafod llan. Yr oedd ef pan yn wr ieuanc yn ddefnyddiol. Symudodd i Groesor ac oddiyno i Fetws Garmon, a bu'n swyddog yn y ddau le. Daeth yn ol i'w ardal enedigol yn 1891, a bu farw Rhagfyr 28 yr un flwyddyn, yn 60 oed. Yr oedd ol y dirgel ar ei weddi a'i fuchedd.

Yn 1867 penderfynu ail-adeiladu'r capel. Nid oedd ond 18 mlynedd o'r brydles heb ddod i ben, ac yr oedd meddwl adeiladu o'r newydd ar hynny o brydles yn achos o bryder. Cymhellwyd myned ymlaen gan y Cyfarfod Misol. Helaethwyd y capel, adgyweiriwyd y tŷ, rhowd railings haearn o flaen y capel ynghyda ffordd ato. Y draul, £433 7s. 6ch. Rhowd llawer o lafur yn rhad gan drigolion yr ardal. Cyn pen wyth mlynedd yr oedd y ddyled wedi ei thalu.

Yn Rhagfyr, 1872, fe ddewiswyd Robert Williams Hafod rhisgl (nid yn 1863, fel y mae yn Ystadegau 1893), Ellis Roberts