Cedwid cyfarfod gweddi ar brydiau ym Mronfedw uchaf ac ambell i seiat. A gwneid y cyffelyb yn achlysurol yn Nrws y coed, Cae'r gors a'r Ffridd uchaf ac isaf. Ar garreg uwchben y drws yn Nrws y coed y mae'r llinellau yma:
Dymuniad calon'r adeiladydd
'Rhwn a'th wnaeth o ben bwygilydd,—
Fod yma groeso i Dduw a'i grefydd
Tra bo carreg ar ei gilydd.—(W.G.).
Enw'r gwr a gerfiodd y llinellau hyn ar gapan ei ddrws ydoedd William Gruffydd. Buwyd yn cynnal ysgol Sul yma hefyd ar un adeg. Pan ddaeth y Morafiaid i ardal Drws y coed, sef oddeutu'r pryd y symudwyd yr achos ym Meddgelert o Dynycoed i Benybont fawr, fe ymunodd William Gruffydd â hwy. Gwnaeth ef a'i deulu lawer i ostwng corn anuwioldeb yn yr ardal. Pan ymadawodd y teulu hwn â'r ardal fe edwinodd achos y Morafiaid yma, ac fe ymunodd yr ychydig weddill ohonynt â'r Methodistiaid. (Llenor, 1895, t. 37.)
Diwygiad Beddgelert roes y symbyliad mawr i'r achos yma. Awd o hynny ymlaen yn fwy cyson ac mewn nifer mwy i'r moddion ym Meddgelert, ac i'r capel yn Nhynyweirglodd, ymhen isaf Llyn Cwellyn, wedi dechre o'r achos yno. Yn 1825 codwyd capel yn Rhyd-ddu. Dyma'r amseriad ar y lechfaen ar dalcen y capel. Ac y mae'r amseriad hwnnw wedi ei godi o'r hen lechfaen oedd ar yr adeilad cyntaf. Dywedir, pa fodd bynnag, fod dyfodiad y Parch. William Jones i'r ardal ac adeiladu'r capel yn gyfamserol. Yn ol T. Lloyd Jones, yn ei ysgrif ar eglwys Talsarn, yn 1829 y symudodd William Jones oddiyno i Ryd-ddu. Ond gan fod yr hen lechfaen yn aros, a'r ail lechfaen wedi ei chopio ohoni, diau mai 1825 ydyw amseriad y capel cyntaf yma. Rhoes rhywun y lechfaen ar yr amod ei fod yn cael rhoi enw i'r capel. Remaliah ydoedd yr enw a rowd, ond ni lynodd wrth y lle. Mesur y tir, 52 llath wrth 18. Tir perthynol i'r Ffridd isaf. Y brydles am 99 mlynedd am £1 yn y flwyddyn. Amseriad y brydles, Mai 23, 1831. Codid capeli yn fynych y pryd hwnnw cyn cael gweithred ar y tir, ond fe fu'r oediad yn fwy nag arfer y tro yma. Yr ymddiriedolwyr: William Roberts Clynnog, David Roberts Ffridd isaf, Robert Roberts Blaen cae, Llanddeiniolen, David Rowland Waenfawr, chwarelwr, John Wynne Caernarvon, John Huxley.