Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/196

Gwirwyd y dudalen hon

Sefydlwyd yr eglwys ar agoriad y capel, a galwyd David Roberts y Ffridd isaf yn flaenor. Tebyg na fu yma achos yn yr ystyr briodol cyn hyn, namyn seiat achlysurol, a hynny flynyddoedd lawer cyn hyn, ac mai ym Meddgelert yr oeddid yn ymaelodi, a rhai yn Nhynyweirglodd yn ddiweddarach. Yno yr elai Rhys William Cwmbychan, ac wedi codi'r capel yma, yno hefyd y dilynai efe'r ysgol. Ymsefydlodd William Jones, brawd John Jones Talsarn, yma ychydig cyn agoriad y capel, neu ynte yn 1829. Codwyd yn flaenoriaid yn 1831, Hugh Evans Tŷ newydd a Richard Williams Simna'r ddyllhuan. Ar ymfudiad Dafydd Roberts a Hugh Evans i'r America yn 1848 y codwyd William Jones Llwyn y forwyn a John Reade yn flaenoriaid. "Dyn distaw a ffeind iawn oedd Dafydd Roberts," ebe Mr. Edward Owen. Richard Williams oedd wr deallgar a selog. Deuai ddwy filltir o ffordd i'r moddion. Yn arswyd i anuwiolion. Bu ef farw oddeutu 1848. Trefnwyd Rhyd-ddu ar y cyntaf yn daith gyda Beddgelert a Waenfawr. Yn 1838 yr oedd Rhyd-ddu yn daith gyda Salem a'r Waenfawr.

Ym Mai, 1845, derbyn Evan Roberts yn bregethwr i'r Cyfarfod Misol. Yn 1846 y daeth John Jones yma o'r Baladeulyn, ar ymfudiad William Jones i Wisconsin, America. Bu William Jones yma am 17 flynedd, a bu o fawr wasanaeth i'r achos, megys ag y bu wedi hynny yn Wisconsin. Yn gynorthwy i'r achos ym mhob gwedd arno, yn allanol ac yn fewnol. Nid oedd ef o alluoedd cyfartal i'w frodyr. Eithr yr oedd efe yn dra chymeradwy fel pregethwr ac fel dyn. Ar brydiau, fel pregethwr, yn codi i gryn rymuster. Ymgymerodd John Jones â'r fasnach a gedwid gan William Jones. Symudodd yntau oddiyma i Frynrodyn yn 1851, wedi bod, yntau hefyd, yn dra gwasanaethgar i'r achos. Gwasanaethai y gwŷr hyn yr achos yn rhad, ac yr oedd eu sefyllfa yn y byd yn eu galluogi i fod yn gynorthwyol iawn i eglwys fechan. Yr oedd Evan Roberts yma yn gyfamserol â John Jones. Gwr call a thawel, "yn feddiannol ar gryn swm o adnoddau meddyliol," ebe Mr. Edward Owen, "er efallai yn brin mewn dawn swynol i draethu." Ebe Mr. R. R. Morris am dano: "Yr wyf yn ei gofio yn dod i'r daith i bregethu. Byddai yn pregethu bob amser â'i freichiau ymhleth neu hanner ymhleth, ac yn eu curo yn achlysurol