oedd y blaenor mwyaf ymarferol yn y lle. Teithiodd lawer gyda gweinidogion fel cyfaill, ac elai i holl Gyfarfodydd Misol y sir am dymor maith. Anfynych y bu neb erioed ffyddlonach. Gwnaeth a allodd. Byddai yn y moddion yn y capel haf a gaeaf ar bob tywydd. Arferai ddweyd nad oedd raid i neb golli dim wrth fyned i foddion gras; fod yn ddigon hawdd prynnu'r amser hwnnw yn ystod y dydd. Dechreuodd ei yrfa grefyddol yn ystod diwygiad mawr Beddgelert, ebe John Jones, a gorffennodd ei yrfa ar y ddaear ar ol gweled diwygiad 1859 a'i effeithiau, a chyfranogodd yn helaeth o fendith y naill a'r llall. Fe ddywed William Jones Nantmor, mewn nodiad amo yn y Drysorfa (1867, t. 113), mai yn 18 oed y profodd argyhoeddiad, ac mai dyna'r adeg ddifrifolaf arno yn ei oes. Yn ol hynny, profodd argyhoeddiad 4 neu 5 mlynedd o flaen y diwygiad. Gyda John Williams Dolyddelen yr ydoedd yn gwasanaethu ar y pryd. Pa bryd bynnag y dywedai ei brofiad neu y rhoddai gyngor yn yr eglwys, byddai'n dra thebyg o gyfeirio at yr helynt honno, ac ni ddeuai oddiyno ond fel colomen Noah gyda deilen olewydden yn ei gylfin. Pan tuag 20 oed daeth i Feddgelert i wasanaeth at Rhys Williams Hafod y llan. Cyfranogodd yn helaeth o'r diwygiad a dorrodd allan ymhen ysbaid. Neidiodd a gorfoleddodd lawer. Yn rhoddwr hael ei hun, arferai ganmol yr eglwys am haelioni, a daeth yr eglwys wrth ei chanmol yn nodedig yn y gras yma. Dyn brwd ei ysbryd ydoedd yn hytrach na dawnus. Er hynny, fe fyddai ei weddïau yn llawn o fater. Gwnae bwynt o ddysgu'r ieuenctid ynghylch arfer geiriau priodol wrth weddio. (Edrycher Pentref).
Richard Williams Cwmbychan oedd wr hynaws a duwiol, yn naturiol yn garedig, ac yn meddu dylanwad mawr, oblegid puredd a gaed ynddo. Arferai siarad yn barchus am bawb bob amser, a byddai pawb yn ei barchu yntau, ac ni byddai neb byth yn ei ameu am ddim a'r a ddywedai. Ymddiriedodd yn gadarn yn yr Arglwydd, a chadarnhawyd yntau â nerth yn ei enaid, canys fel y bu fyw y bu farw, a hynny yn llawn o dangnefedd yr Efengyl. (Edrycher Pentref.)
Owen Cadwaladr, un arall o'r swyddogion, oedd un y perthynai iddo nodweddion o'i eiddo'i hun. Nid tyner wrth y drwg oedd ef. Ceryddai yn llym iawn yn yr eglwys am bob math o esgeulustra. Yr oedd yn wr cadarngryf, ac un ffordd ganddo o geryddu oedd