Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/213

Gwirwyd y dudalen hon

Dysgid y tonau yn ofalus cyn dod â hwy i arfer yn y gynulleidfa. A cheid blas a hwyl nefol gyda'r tonau wrth eu dysgu. Gwelwyd hwy yn dod o'r tŷ dan wylo wedi bod yn canu, "Heddyw yn eiriol." Y mae amryw lyfrau tonau yn yr ardal o hyd, ebe John Jones, wedi eu hysgrifennu gan Richard Jones. Byddai John Jones Talsarn yn hoff o ddod i Beniel, a threuliwyd llawer noswaith gyda chanu ei donau newyddion ef. Bu Richard Jones ac yntau yn synnu eu dau wrth ganfod fel yr aeth yn dri ar y gloch y bore arnynt. A dywed John Jones Tŷ capel fod y ddau erbyn hyn yn cael canu mewn hwyl mewn Peniel nad oes nos yno, a lle na chyfrifir amser, ac nad â byth yn hwyr.

Nid oedd William Williams Tŷ mawr yn ol o gymhwysterau i'w swydd, ac ni bu yn ol yn eu rhoi mewn gweithrediad. Yr oedd ef yn hynod yn ei fanylder gyda holl waith ei swydd. Elai i bob Cyfarfod Misol drwy bob rhwystrau. Credai yn y Corff, ebe John Jones, â'i holl galon. Bu'n ymdrechgar dros ben i gael pregethu cyson ym Mheniel. Cymerodd ran helaeth o'r cyfrifoldeb yn adeg adeiladu'r capel newydd yn 1868. Parodd hynny lawer o bryder iddo, ond coronwyd ef â llwyddiant amlwg iawn. Yr oedd yn ddiwinydd cartrefol da, ebe Carneddog, ac wedi darllen Gurnal, Geiriadur Charles, a llyfrau o'r fath yn fanwl droion. Athro campus yn yr ysgol. Holwr ac atebwr rhagorol. Go arw am ei ffordd ei hun fel blaenor, ebe un a'i hadwaenai yn dda. Er hynny yn henadur gwir ddefnyddiol. Bu farw Mai 15, 1881, yn 66 oed.

Ei feddwl oedd yn eang,
A threchai bawb â'i farn;
Cefnogai rinwedd gyda phwyll,
Ond twyll a wnae yn sarn;
Ymdrechai yn egniol
O blaid pob achos da,
A thra bydd Peniel yn dŷ Dduw
Ei barch yn fyw barha.—(Carneddog.)

Griffith Williams Hendre fechan (neu Dŷ newydd) oedd flaenor ffyddlon dros ben, yn ol cofnod y Cyfarfod Misol. Yn ol Carneddog, yr oedd yn ddyn lled gyflawn o ran ei wybodaeth: diwinydd medrus, athro da, atebwr parod, siaradwr i bwrpas pan yn annerch, a gweddiwr rhagorol. Byddai gweddi Griffith Williams, yn ol barn un gweinidog, yn "batrwm o weddi." Bu farw Medi 26, 1889, yn 63 oed.