Yr oedd yn ddefosiynol ei ysbryd, ac yn unplyg a phenderfynol. Ystyrrid ef yn gynghorydd medrus, ei sylwadau yn fyrion a phert. Yn ddirwestwr selog. Bu farw Awst 15, 1892, yn 57 oed. (Carneddog).
William Roberts oedd onest ddirwestydd,
Yn gawr o weithiwr, a gwir areithydd;
Yn null henuriad bu fyw'n llenorydd,
Yn ir ei ddoniau, yn fawr ddiwinydd;
Anwyl sant! ei Beniel sydd—a phrudd lef,
Yn chwerw 'i dolef ar lwch ardalydd.—(Namorydd).
Dechreuodd Morris Anwyl bregethu yn 1838. Mab hynaf Robert Anwyl Cae Ddafydd. Daeth John Jones y pregethwr o Dremadoc, a John Jones y blaenor o Feddgelert i'w holi ar ei gychwyniad, gyda'r bwriad eisoes yn eu meddyliau i roi atalfa arno, fel y dywedir. Yr oedd rhyw syniad fod gormod o bregethwyr o'r braidd yn codi yn y wlad ar y pryd, a'r amcan wrth geisio atal Morris Anwyl oedd atal eraill rhagllaw. Galwyd am yr ymgeisydd i'r tŷ capel at y ddau arholydd. Yr oedd ei ymddygiad yntau'n wylaidd a'i atebion yn ddifwlch. Yna aeth y blaenor i'w holi am ei brofiad. Ac wrth wrando ar ei atebion, toddodd y gweinidog fel cŵyr, syrthiodd ar ei liniau a gwaeddodd allan, "Diolch i ti, O Arglwydd, am y gwaith amlwg a wnaethost ar dy was hwn. Diolch ! dyma bibell eto i ddwyn yr olew sanctaidd." Ni chafodd neb ei siomi yn y Morris Anwyl hwn. Cyfrifid ef yn bregethwr mawr. Syniad Gruffydd Prisiart am dano ydoedd, pe cawsai fyw, y cyfrifid ef yn un o bregethwyr blaenaf yr oes. Yr oedd ganddo, hefyd, ddawn hynod i gael y bobl ieuainc i weithio yn yr eglwys gartref. Ond mwy anwyl oedd efe gan yr Arglwydd nag ydoedd hyd yn oed gan ei bobl. Yr oedd yn rhaid i'r Arglwydd wrtho. I'r perwyl yna yr ysgrifenna John Jones Tŷ capel am dano. Y mae nodiad arno, hefyd, gan J. J. Waterloo, sef John Jones Glan Gwynant, yn y Drysorfa am 1846, t. 320. Rhydd ef ei oed yn 32, a nodir Awst 12, 1846, fel dydd ei ymadawiad. A dywed fod ei rodiad diargyhoedd, ei lafur egniol, ei weddïau taerion, a'i brofiad uchel o bethau ysbrydol, yn ei hynodi yn fawr fel cristion; a'i dreiddgarwch i ddirgelwch yr Efengyl, ynghyda'i ddawn nodedig yn ei gosod allan ger bron y gwrandawyr, yn ei hynodi yn fawr fel cennad. dros Grist. Beibl mewn gweithrediad oedd ei fuchedd, fe ddywedir, a'i weinidogaeth yn ddrych ag y danghosid ynddo ddirgeledigaethau gras. Cymherir ef i seren ddisglair a grewyd gan yr hwn a wnaeth Orion a'r Saith Seren, ac a osodwyd yn ffurfafen yr eglwys i lewyr-