Y mae Carneddog yn manylu ar gymeriadau heb fod yn swyddogion eglwysig, nac yn aelodau, rai ohonynt. Morris Gruffydd y Carneddi, brawd i Sion Robert, a thad Carneddog ei hun, oedd hen gristion amlwg ym Mheniel, a naturiol ei ddull. Heb dalent i annerch yn gyhoeddus, yr oedd ei ragoriaeth yn y seiat a'r cwrdd gweddi. Yn ddiystwr a hael ei gyfraniadau. Yr oedd yn adnabod pob pregethwr, hen ac ieuanc, a'i gof yn cynnwys eu henwau, a manylion perthynasol, fel y dyddiadur. Hanner addolai Owen Thomas a David Charles Davies. Cerddodd unwaith dros y mynydd i Ffestiniog i'w clywed, a chafodd y fraint o ysgwyd llaw â hwynt! Yr oedd yn hollol ddiniwed, syml a diwenwyn. Deallai egwyddorion cerddoriaeth yn bur dda, ac yn y gangen hon yr oedd gryfaf. Ar ol symudiad Richard Jones o Beniel i Fethania yn 1856, dewiswyd ef yn godwr canu yn ei le, a bu'n llenwi'r swydd am o 18 i 20 mlynedd. Bu'n dihoeni yn hir, a'r olaf o'r hen weinidogion a alwodd i'w weled oedd Evan Peters y Bala, a chaed lle hyfryd rhyngddynt. Bu farw Mai 31, 1881, yn 66 oed. John Jones Bwlch gwernog oedd frodor o dueddau Rhostryfan, a ddaeth i Hafod lwyfog at ei gefnder, John Owen. Codwyd ef yn flaenor ym Methania (Edrycher Bethania). Symudodd i Ffestiniog, a dychwelodd i Fwlch gwernog. Ymroes i ddysgu'r sol-ffa i'r ieuenctid. Codwyd ef yn gydarweinydd y canu â Morris Gruffydd, ac yn y man aeth yn brif arweinydd. Bu'n arwain côr am flynyddau. Dyn bychan, distaw, gwyliadwrus, didramgwydd i bawb hyd y gallai. Bu farw Gorffennaf 9, 1876, yn 50 oed.
Ym meusydd toreithiog cerddoriaeth llafuriodd,
A dygodd oddiyno drysorau tra mawr,
Y rhai yn ddifloesgni a seiniant ei glodydd
Tra'r huna e'n dawel ym mhriddell y llawr.
(Robert R. Jones, Corlwyni).
Perchir coffadwriaeth John Jones yr Hendre, er nad oedd yn broffeswr Bu'n cadw ysgol ddyddiol yn hen gapel Peniel o tuag 1856 hyd 1862, am gyfnodau bob blwyddyn. Yn wr bucheddol dros ben ei hunan, fe roes gychwyn da i lawer o blant yr ardal, gan roi cynghorion syml yn erbyn cyflawni drygau. Nid oedd Sion William Garleg-tŷ (Gardd lygaid y dydd) yn proffesu chwaith, er ei fod yn wr moesol, ail ei le. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a chanddo gof rhagorol. Byddai'n adrodd penodau ar ddechreu'r moddion, yn enwedig yr ysgol. Adroddai'r hen wr y penodau mwyaf dyrus