yn Eseciel neu Esai heb fethu gair, fel y rhyfeddai'r pregethwyr at ei fedr. Hen lanc darbodus a chefnog oedd Sion Robert Beudy newydd, heb fod yn proffesu yntau chwaith. Ni chollai ddim moddion ar y Sul, ac yr oedd ganddo ddosbarth o lanciau yn yr ysgol. Cae ei barchu fel gwlanwr plaen a chywir, ac yr oedd yn hael at yr achos mewn dull distaw. Dawn at ddysgu'r plant i ddarllen oedd gan William Roberts Pen y groes. Gallai ddangos awdurdod a bod yn garedig. Dysgodd döau o blant i ddarllen, a medrai droi y plant goreu i'r Testament yn chwech oed. William Roberts yr Aber oedd athro darllenwyr a meddylwyr yr ardal. Deallai'r prif bynciau, yr oedd yn ysgrythyrwr da, ac yn wr o feddwl effro. Yn atebwr campus yn y Cyfarfodydd Ysgolion. Hen lanc oedd Owen Ifan Dinas ddu, a garai suddo i mewn i bynciau dyfnion. Un di droi yn ol mewn dadl, a dadleuai am oriau. Byddai John Owen Ty'n llwyn yn y Cyfarfod Ysgolion yn gofyn y cwestiwn yn gyntaf i'r naill ochr i'r capel, ac wedi methu ganddynt yno, i'r ochr arall, ac wedi methu yno drachefn, i Owen Ifan. Ac yna byddai'n sicr o atebiad, a gwenai yr holwr a phawb. Efe fyddai'n selio pob cwestiwn mawr. Mab Robert Gruffydd oedd Sion Robert. Gwr boneddigaidd a hardd, a lled gefnog. Yn ffyddlon a gweithgar. Eneiniad ar ei brofiadau a'i weddïau. Bu farw Gorffennaf 7, 1876, yn 67 oed.
Dywed Carneddog iddo gael yr atgofion sy'n dilyn am hen chwiorydd gan William Buarthau Jones a John Williams Cwm bychan. Sian Richard y Clogwyn oedd ferch Richard Edmwnd o'r Corlwyni, a gwraig Robert Roberts y Clogwyn. Argyhoeddwyd hi yn y Tŷ rhisgl, o dan bregeth gyntaf Robert Jones Rhoslan yn y lle. Yr oedd hi yn wraig ddarllengar a gwybodus. Hi gynorthwyai ei gwr yn y gwaith o arolygu'r achos yn ei fabandod. Hi fyddai'n codi'r canu yn ysgol y Corlwyni, ac ym Mheniel lawer yn ddiweddarach, pan yn hen wraig, os byddai'r codwr canu yn absennol. Edrychid ati hi fel un yn caru Duw yn wirioneddol, a gwnaeth ei goreu i hyrwyddo achos crefydd yn ei hoes. [Nodir gan Mr. D. Pritchard mai y hi a gafodd y fraint o ddod â Beibl ac ystôl drithroed i Robert Jones Rhoslan ar gyfer y bregeth gyntaf yn y plwyf yn Nhŷ rhisgl]. Hannah Ifan y Tylymi, ail wraig Richard Gruffydd, a merch Ifan Siams y cowper, oedd wedi yfed yn helaeth o ysbryd y diwygiadau. Adroddai adnodau a phenillion wrth gerdded ol a blaen i'r capel, a gwnae swn rhyfedd wrthi ei