Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/23

Gwirwyd y dudalen hon

yn derbyniodd alwad fel gweinidog i Ebenezer, Llanddeiniolen. Yn 1831 daeth Thomas Griffith yma, gwr a fu am rai blynyddoedd yn gynorthwywr i Evan Richardson yng Nghaernarvon. Ysgolfeistr da. Symudodd i'r Felinheli cyn pen dwy flynedd. Am ysbaid byrr y bu Henry Vaughan yn y Waen yn ystod bachgendod Dafydd Thomas. Teiliwr wrth ei alwedigaeth. Ei goes chwith wedi ei thorri ymaith ychydig yn uwch na phen ei lin, a cherddai gyda baglen a ffon. Bu'n cadw ysgol ganu yma ar y nosweithiau am ryw chwarter blwyddyn yn ystod y gaeaf. Cof gan Dafydd Thomas am dano yn sefyll ar ganol llawr y capel, yr ysgolheigion yn sefyll o'i flaen, y faglen dan ei gesail chwith, a'r ffon yn ei law ddehau yn cadw'r amser. Eithr nid y ffon yn unig a gadwai'r amser. Eithr y lin bwt hefyd, canys fel y byddai'r ffon yn codi a gostwng byddai'r lin bwt hefyd yn ysgwyd ol a blaen, a symudiad y naill a gydatebai i symudiad y llall, er mawr gymorth i Dafydd Thomas a'i gydysgolheigion i sylwi ar y pwnc. Y mae Dafydd Thomas yn meddwl y gall sicrhau nad oedd dim ysgol ddyddiol yn y flwyddyn 1834 yn mhlwyfi mawrion Llanrug, Llanberis, Betws Garmon a Llanwnda, sef y plwyfi sy'n cylchynnu'r Waenfawr.

Ni bu yma ysgol sefydlog hyd 1837, pryd yr adeiladwyd yr ysgoldy genedlaethol lled eang. Bu yno rai athrawon da, megys David Roberts, wedi hynny rheithor Mostyn, ac Elis Wyn o Wyrfai. Croesawid yr ysgol yn awchus yn yr ardal, a chyfrannodd yr ardalwyr yn gyffredinol tuag ati. Danghoswyd caredigrwydd gan awdurdodau yr ysgol tuag at y capel, yn gymaint ag y cynhelid ysgol Sul y Methodistiaid yn yr ysgoldy yn ystod haf 1837, pryd yr adeiledid y capel newydd. Er hynny, fe aethpwyd i deimlo yn fuan fod dylanwad eglwysig cryf yn cael ei arfer drwy gyfrwng yr ysgol, yn anisgwyliadwy iawn i bobl y capel. Cynhelid gwasan- aeth eglwysig yn yr ysgol ar y Suliau, a byddai raid i'r plant a elai yno roi eu presenoldeb yn y gwasanaeth dan berygl cosp y Llun dilynol. Dysgid catecism yr eglwys y peth cyntaf bob bore. Y mae Pierce Williams yn edrych ar yr ysgol fel ymosodiad pendant ar ymneilltuaeth, a dywed ef y byddai ffafrau amlwg yn cael eu dangos i blant yn cydffurfio â'r gofynion o natur eglwysig, tra y cospid y lleill mewn dull diystyrllyd. Dechreuwyd cynhyrfu am ysgol arall, a chedwid cyfarfodydd i'r amcan yn yr ardal. Cafwyd John Phillips a John Owen Gwindy yma i ddadleu'r achos mewn