ystyriaeth heb fod eto yn rhan o gynlluniau y Cyfarfod Misol, a geilw ef y blaid hon yn blaid yr aelodau cyffredin. Y ddwy blaid yn fwy neu lai amlwg yng ngweithrediadau eglwys y Waen hyd oddeutu 1875. Go nodweddiadol o chwarelwyr Arfon o hyd yw y pleidiau hyn. Achos o gŵyn gan Pierce Williams ydyw ddarfod i rai go led amlwg gyda'r blaid ddiwygiadol cyn eu dyrchafu i'r flaenoriaeth, droi yn weddol geidwadol ar ol y dyrchafiad hwnnw. Hawdd fyddai gwneud yr ensyniad fod rhywbeth yn hyn, hefyd, yn nodweddiadol o chwarelwyr Arfon. Onid rhywbeth nodweddiadol o'r natur ddynol ei hun ydyw? Oni welir y cyffelyb yn y wladwriaeth hefyd? Oni welwyd pencampwyr dadleuaeth wleidyddol yn cael eu mawr lareiddio a'u dofi wedi y dyrchafer hwy o Dŷ'r Cyffredin i Dŷ'r Arglwyddi?
Dengys y daflen yma berthynas eglwysi'r cylch âg eglwys y Waen, ac amser eu sefydlu. Waenfawr
Ymganghennodd eglwysi'r dref a'r cylch o Foriah. Rhoir taflen eto yn hanes eglwysi'r dref a'r cylch i ddangos hynny. Ni ddanghosir eglwysi Ceunant a Thanycoed yma, gan mai canghennau o Lanrug ydynt hwy; ond dodir eu hanes yma am eu bod yn perthyn i eglwysi Dosbarth Caernarvon. Rhif eglwys y Waen yn 1823 oedd 65, ond fod Moriah wedi ymganghennu ohoni cyn hynny. Yr oedd rhif y tair eglwys, sef y Waen, Salem, a Chroesywaen, yn 765 yn 1900. Y mae'r gymdeithas fechan a sefydlwyd gan Howel Harris neu rywun drosto yn Hafod y rhug, wedi ymestyn yn eglwys y Waen a'r eglwysi a ymganghennodd ohoni yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn 3214 o aelodau, yn ol Ystadegau 1900. Ond gan fod camgymeriad yng nghofnod Moriah am y flwyddyn honno, cymerer cofnod 1901 am Moriah, yr hyn sy'n 116 yn llai, a gwnel hynny y cyfanswm yn 3098. Rhif yr eglwys ynghyd â'r eglwysi a ymganghennodd yn uniongyrchol ohoni erbyn 1900 ydoedd 1360 (gan gywiro cofnod Moriah).